Ymunwch â Bethan, Warden Cynorthwyol Yr Wyddfa, ar gyfer Taith y Warden mis Chwefror!
Mae’r gylchdaith hon sydd yn cychwyn ym mhentref Croesor, yn swatio wrth odre Cnicht yn nhirwedd trawiadol Eryri.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Manylion y daith
Dyddiad: Dydd Sul, 23 Chwefror, 2025
Amser cyfarfod: 10:00yb
Hyd: Tua 3 awr
Pellter: 5.5km
Man cyfarfod: Maes parcio ym mhentref Croesor
Arweinydd y daith
Bethan Jones, Warden Cynorthwyol Yr Wyddfa, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Taith y Warden: Cylchdaith Croesor
Ymunwch â Bethan, Warden Cynorthwyol Yr Wyddfa, ar gyfer Taith y Warden mis Chwefror!