Taith y mis ar gyfer mis Tachwedd yw taith gerdded Rhaedr Fawr drwy Goedydd Aber gyda golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau, ac yna’n ôl drwy dir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn lle ceir golygfeydd panoramig o Ynys Môn a’r Fenai. Mae mannau o ddiddordeb yn cynnwys olion archeolegol a chysylltiadau â llywodraethwyr olaf Gwynedd, oedd â’u llys yn Abergwyngregyn yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Manylion y daith
- Dyddiad: Dydd Mercher, Tachwedd 27ain.
- Amser cyfarfod: 10:30yb
- Lleoliad cyfarfod: Maes parcio Bont Newydd (SH66471)
- Amser: Tua 3 awr i gwblhau'r daith
- Hyd: 6.5km / 4 milltir
- Math o lwybr: Cylchdaith
- Cyfle am bicnic ar y ffordd; dewch â bwyd gyda chi!
Arweinydd y daith
Alan Pritchard, Warden Ardal Carneddau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Archebu lle
Sesiwn
Tachwedd 27, 2024 (10:30 - 13:00)
Nifer o fynychwyr
Taith Gerdded y Mis: Cylchdaith Rhaeadr Fawr
Taith y mis ar gyfer mis Tachwedd yw taith gerdded Rhaedr Fawr drwy Goedydd Aber gyda golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau, ac yna’n ôl drwy dir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn lle ceir golygfeydd panoramig o Ynys Môn a’r Fenai.