Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.

Taith Gerdded y Mis hwn (Mawrth 2023) yw Foel Ispri ac fe'i dewiswyd gan Myfyr Tomos, Warden Ardal Dolgellau yr Awdurdod.

Taith Foel Ispri

Mae Foel Ispri yn cychwyn yn uchel ar y bryniau dros bentreflan Pen-y-Bryn, ger Dolgellau. Mae’n un o’r nifer o lwybrau gwych sydd ar gael ar hyd aber hudol Mawddach.

Ble
Foel Ispri, Llanelltyd ger Dolgellau
Cyfarfod ym Maes Parcio Foel Ispri
Sylwer bod parcio ym Maes Parcio Foel Ispri yn gyfyngedig iawn. Gofynnwn yn garedig i chi rannu cerbydau ble fo'n bosib.

Gweld Maes Parcio Foel Ispri ar what3words
Gweld Maes Parcio Foel Ispri ar Google Maps

Pryd
Dydd Sadwrn, Mawrth 18
Cyfarfod ym Maes Parcio Foel Ispri am 9:30yb
Bydd y daith gerdded yn cychwyn am 10:00yb

Y daith gerdded
Pellter: 2 filltir
Amcangyfrif o hyd: Dim mwy na 2 awr

Arweinydd y daith
Myfyr Tomos
Warden Dolgellau, Awdurdod Parc Cenedlaethol

Gwybodaeth bwysig
Tra bod rhannau o Foel Ispri yn hygyrch i 'Trampers', bydd y daith dywys hon yn parhau heibio i'r man hygyrch pellaf. Felly, ar yr achlysur hwn, ni fydd yn bosibl ymuno â'r daith gyda Tramper.

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Taith Gerdded y Mis: Foel Ispri

Ymunwch â Myfyr Tomos, Warden Dolgellau Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ein Taith Gerdded y Mis.

Category: