Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Mae Taith Gerdded y Warden y mis hwn yn mynd â ni i Gwm Idwal. Dewiswyd y daith gan Jack Peyton, Uwch Warden Mynediad y Parc Cenedlaethol. Bydd Rhys Wheldon, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ymuno â ni i’ch tywys ar y daith. Gyda’ch gilydd, byddwch yn archwilio’r llwybrau, yn dysgu am fywyd gwyllt tymhorol ac yn mwynhau’r harddwch a’r straeon sy’n gwneud Cwm Idwal mor arbennig.
Ble
Cwm Idwal, Ogwen
Cyfarfod tu allan i Ganolfan Ogwen
Pryd: Dydd Gwener, Awst 29
Amser: 10yb
Y daith
Pellter: 3.5 milltir
Hyd: Dim mwy na 3 awr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â dillad cerdded priodol ac yn gwisgo esgidiau cerdded cadarn.
Taith Warden y Mis: Cwm Idwal
Mae Taith Gerdded y Warden y mis hwn yn mynd â ni i Gwm Idwal. Dewiswyd y daith gan Jack, Uwch Warden Mynediad.