Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol. Mae’r daith ar gyfer mis Mai wedi ei ddewis gan Ioan Davies, sef Warden Ardal Nant Conwy.

Manylion y daith

  • Dyddiad: 4ydd o Fai, 2024
  • Amser: 10:30yb tan 12:30yh.
  • Hyd y daith: 1milltir / 1.6km.
  • Math o lwybr: Gweddol wastad ond gyda rhai darnau serth a charegog ar y cychwyn, ac yn arbennig ar y diwedd. Mae angen gwisgio esgidiau cerdded a chymryd gofal.

Parcio

  • Ar ochr yr A470 rhwng Betws y Coed a Llanrwst. Wrth fynd o Fetws y Coed am gyfeiriad Llanrwst, gellir parcio yn yr arosfan ar y llaw dde ychydig dros filltir ar ôl troi am Lanrwst.
  • What3Words.
  • Mae map o'r daith ar gael yma.

Tywysydd y daith: Ioan Davies, Warden Ardal Nant Conwy - Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Taith y Mis: Taith Coed Hafod

Ymunwch ag un o wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar gylchdaith o amgylch ardal Rhyd Ddu.

Category: