Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Bethan Jones, Uwch Warden y Gogledd sy’n cyflwyno Taith y Mis ar gyfer Gorffennaf, ac mae hi wedi dewis cylchdaith ym mhentref Llanberis.
Y daith
Dyma gylchdaith fendigedig sy’n mynd â chi drwy bentref bach Llanberis, dros yr Afon Goch ac am Gwm Brwynog ar lethrau isaf yr Wyddfa. Ar ddiwrnod clir cewch olygfeydd anhygoel o’r Wyddfa, Elidir Fawr a Llyn Padarn.
Mae map o'r daith ar gael yma.
Manylion y daith
Pryd: Dydd Sul, 14eg o Orffennaf, 2024
Amser: Dechrau am 9:30yb
Arweinydd y daith: Bethan Jones, Uwch Warden y Gogledd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Pellter: Tua 6.6km
Amser: Tua 2 awr
Graddfa: Cymedrol
Gwybodaeth am doiledau cyhoeddus yn Llanberis
Gwybodaeth am raddfeydd llwybrau
Man cyfarfod
Tu allan i’r hen safle ganolfan Mynydd Gwefru.
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith y mis: Cylchdaith Llanberis
Bethan Jones, Uwch Warden y Gogledd sy’n cyflwyno Taith y Mis ar gyfer Gorffennaf, ac mae hi wedi dewis cylchdaith hyfryd yn Llanberis.