Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Ymunwch hefo ni ar ein teithiau cerdded meddylgarwch o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri gyda’r arweinydd Davy Greenough. Wrth fwynhau taith gerdded cymhedrol, byddwn yn cerdded fel grŵp gan fwynhau’r amgylchedd naturiol ac bydd amser am seibiant yn rheolaidd gyda chyfnodau myfyrdod byr.

Arweinydd y sesiwn
Davy Greenough

Lleoedd ym mhob sesiwn
10

Bwlch Drws Ardudwy – Sadwrn, 1st Ebrill
Amser: 10:00–13:00
Disgrifiad o'r daith: Bydd y gylchdaith hon yn eich arwaith drwy Goed Graigddu tuag at Bwlch Drws Ardudwy—y bwlch rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach.
Parking a Theithio: Bydd swyddog o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cysylltu â chi ynglyn â threfniadau parcio a thrafnidiaeth ar ôl i chi archebu lle ar y digwyddiad.

Bwlch Drws Ardudwy

Trefnwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg yng nghwmni swyddog Cymraeg o Awdurdod y Parc.

Bydd arweinydd meddylgarwch profiadol yn arwain y daith gan roi cyfle i chi ymlacio a myfyrio ar eich llesiant, tra’n cerdded mewn rhan hardd ac heddychlon o’r Parc Cenedlaethol.

Dyma ychydig o wybodaeth ar beth fyddwch angen ei baratoi cyn y sesiwn.

  • Bydd y daith yn cymryd 2 i 3 awr yn dechrau am 09:00
  • Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd mawr/ glaw trwm

Byddwch angen dillad addas ar gyfer y tywydd gan gynnwys esgidiau cerdded, dillad glaw, eli haul, diod, byrbrydau ac unrhyw feddyginaieth y byddwch ei angen.

Bydd y rhan fwyaf o'r daith gerdded a myfyrdodau mewn distawrwydd llwyr. Bydd digon o amser i sgwrsio yn ystod yr egwyl baned! Cerddwch ychydig lathenni ar wahân i'r person nesaf a byddwch yn ymwybodol o'r arweinydd yn y tu blaen wrth i ni gerdded. Os oes gennych unrhyw broblemau o gwbl yn ystod y taith gerdded, rhowch wybod i ni trwy galw ein henw neu godi eich llaw.

Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chymryd lluniau heb law am ar adegau pan fyddwn yn cael seibiant rhag cerdded neu fyfyrio. Rhowch eich ffôn i ffwrdd neu yn y modd tawel yn ystod y daith gerdded.

Os ydych chi angen canslo eich lle ar daith, cysylltwch â Swyddog Llesiant a Gwirfoddoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

Etta Trumper
etta.trumper@eryri.llyw.cymru

Archebu lle
Sesiwn
Ebrill 1, 2023 (10:00 - 13:00)
Nifer o fynychwyr

Teithiau Cerdded Meddylgarwch

Teithiau cerdded meddylgarwch o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri gyda’r arweinydd Davy Greenough.

 

Category:
This site is registered on wpml.org as a development site.