Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Taith Gerdded y mis hwn (Mawrth 2024) yw Cylchdaith Rhyd Ddu, ac fe'i dewiswyd gan Alun Jones, Warden Yr Wyddfa.
Pryd?
- Mawrth 23ain.
- Cyfarfod am 9:30yb.
- Bydd y daith gerdded yn cychwyn ychydig wedi'r amser cyfarfod.
Pam y llwybr hwn?
Mae’r llwybr yma yn teithio drwy un o’r ardaloedd harddaf a mwyaf dramatig yn y Parc Cenedlaethol. Aiff y daith drwy amrywiaeth o dirweddau, ac mae’n cynnig golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwyrfai a’r cyffiniau, gan gynnwys golygfeydd godidog o’r Wyddfa. Mae llwybr yn un aml-ddefnydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ceffyl.
Am y daith
- Gradd: Ysgafn/cymedrol
- Cyfleusterau: Toiledau a meinciau picnic
- Tirwedd: Llwybr gwastad hefo rhai ardaloedd bryniog tuag at ochrau’r Wyddfa o’r daith.
- Dechrau/diwedd: Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Rhyd Ddu.
- Hyd: Oddeutu 2 awr a hanner
- Pellter: 6km
Tywysydd y daith: Alun Jones, Warden Yr Wyddfa - Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith y Warden: Cylchdaith Rhyd Ddu
Ymunwch ag un o wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar gylchdaith o amgylch ardal Rhyd Ddu.