Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn y goedwig gyda'ch teulu! Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau coetir cyffrous yn rhai o’n hoff fannau ym Mharc Cenedlaethol Eryri – y tro hwn yn Farchynys ger Aber Afon Mawddach.
Mae gweithgareddau yn cynnwys:
- Dysgu sgiliau byw yn y gwyllt
- Chwilota am fwydydd gwyllt
Manylion y digwyddiad:
Pryd: 23 Awst, 13:30yh- 15:30yh
Grŵp oedran: Addas i blant rhwng 2–12 oed. Fodd bynnag, gofynnir i rieni neu warchodwyr fod yn bresennol yn ystod y sesiwn os gwelwch yn dda.
Iaith: Sesiwn dwyieithog
Lleoedd ar gael: 10
Cost: £5 y plentyn
Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn i gysylltu â natur a mwynhau diwrnod cofiadwy gyda'ch teulu!
Canslo ac ymholiadau
Os hoffech ganslo eich archeb neu wneud ymholiad am y digwyddiad, cysylltwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Etta Trumper: etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Ysgol Goedwig: Farchynys
From: £5.00
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn y goedwig gyda’ch teulu!