Dewch i fwynhau digwyddiad Ysgol Goedwig hydrefol gyda ni yn Yr Ysgwrn!
Mae gweithgareddau yn cynnwys:
- Dysgu sgiliau byw yn y gwyllt
- Chwilota am fwydydd gwyllt
- Mwynhau amser mewn natur
Manylion y digwyddiad:
Pryd: Dydd Gwener, 1af o Dachwedd, 13:30yh - 15:30yh
Ym mle: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Grŵp oedran: Yn addas ar gyfer plant 2 i 12 oed. Gofynnir yn garedig i rieni neu warchodwyr fod yn bresennol yn ystod y sesiwn os gwelwch yn dda.
Iaith: Bydd y sesiwn yn ddwyieithog
Cost: £5 y plentyn
Bydd ein Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant yn anfon mwy o wybodaeth atoch am y digwyddiad hwn dros e-bost yn nes at yr amser.
Canslo ac ymholiadau:
Os oes angen i chi ganslo neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Etta Trumper
📧 etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Ysgol Goedwig Hydrefol: Yr Ysgwrn
From: £5.00
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn y goedwig gyda’ch teulu!