Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Gyda chymorth tîm Wardeiniaid Awdurdod y Parc bydd disgyblion Ysgol Bro Tryweryn ger y Bala yn cael cyfle i ddysgu am gylch bywyd brithyll trwy ofalu am ddeorfa bysgod yn eu hystafell ddosbarth.

Fel cyfraniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, bydd Wardeiniaid ardal y Bala yn cydweithio gydag ysgol gynradd leol i sefydlu deorfa bysgod dros dro yn y dosbarth. Trwy sefydlu a gofalu am yr wyau pysgod wrth iddynt ddatblygu i fod yn silod mân bydd y plant yn cael cyfle heb ei ail i ddysgu am gylch bywyd pysgod ac amgylchedd afon.

Yn ogystal â’r ddeorfa yn yr ysgol, bydd deorfa arall dan ofal y Wardeiniaid yn eu canolfan ar lan Llyn Tegid, lle byddant yn paratoi dyddiaduron fideo ar gyfnodau allweddol yn natblygiad y pysgod. Bydd y dyddiaduron fideo hyn yn cael eu cyhoeddi ar dudalen bwrpasol ar wefan Awdurdod y Parc, yn ogystal â lluniau byw o’r ddeorfa.

Bydd y pysgod mân yn aros yn y ddeorfa nes byddant yn ddigon mawr i’w rhyddhau i Afon Tryweryn gerllaw. Er y bydd rhwng 150 a 200 o wyau yn cael eu rhoi ym mhob un o’r ddwy ddeorfa, yn anffodus nid oes disgwyl iddynt oll oroesi i gyrraedd yr afon, gan y bydd rhai wyau yn methu, a rhai silod yn gorfod bod yn destun profion am haint cyn y gellir rhyddhau gweddill yr haig i’r afon er mwyn amddiffyn y stoc wyllt gynhenid o frithyll brown yr afon.

Meddai Arwel Morris, Warden Llyn Tegid a’r Ardal:

“Wedi cyfnod mor anodd i blant sydd wedi gorfod treulio rhan helaeth o’u blwyddyn ysgol y llynedd yn dysgu o bell, mae mor braf gallu mynd allan atynt i’r dosbarth i’w helpu i sefydlu’r ddeorfa a’u harwain ar hyd y daith.

Trwy ddysgu am gylch bywyd pysgod trwy brofiad ymarferol – o osod yr wyau yn y ddeorfa a gofalu amdanynt hyd eu rhyddhau yn Afon Tryweryn, gobeithio y bydd y profiad yn meithrin diddordeb yn yr amgylchedd naturiol a gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gofalu amdano.”

Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy:

“Mae rhoi’r cyfle i blant ysgol weld wyau brithyll yn datblygu a deor yn eu hystafell ddosbarth neu ar-lein yn ffordd wych iddynt wneud cysylltiad â’u hafon leol. Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn gweithredu ar draws dalgylch y Ddyfrdwy i gael gwared â rhwystrau a gwella cynefin yr afon er budd ystod eang o rywogaethau yn cynnwys eogiaid, lampreiod a brithyll. Trwy roi’r cyfle i blant weld yr hyn sydd fel arfer yn digwydd o’r golwg dan wyneb y dŵr gobeithio y byddant yn sicrhau eu bod yn gofalu am eu hafon leol yn y dyfodol.”

Meddai Mr Daniel Roberts o Ysgol Bro Tryweryn, y Bala:

“Roedd mor braf gweld ymateb y disgyblion wrth i’r wyau gyrraedd y ddeorfa ac maent i gyd yn hynod gyffrous i’w gweld yn deor. Wedi cael cyflwyniad ac arweiniad gan y Wardeiniaid ynghylch sut i ofalu am yr wyau maent yn awyddus iawn i fwrw i waith a chymryd eu tro mewn parau i oruchwylio’r ddeorfa dros yr wythnosau nesaf.”

Gall ysgolion o bob cwr o’r wlad fanteisio ar y prosiect arbennig yma. Bydd ffrwd byw o’r ddeorfa yn y Ganolfan Wardeiniaid yn cael ei darlledu 24 awr y dydd, yn ogystal â phecyn addysg llawn gweithgareddau ar gael ar-lein fel y gall disgyblion o bob cwr o Gymru a thu hwnt fwynhau gwylio a dysgu am y pysgod bach a’u cynefin.

Nodyn i Olygyddion
    1. Dyma’r ail flwyddyn i’r Gwasanaeth Wardeiniaid redeg y prosiect deorfa, ond oherwydd cyfyngiadau Covid-19 y llynedd nid oedd yn bosib gosod deorfa mewn ysgol. Serch hynny, gwnaethpwyd y mwyaf o dechnoleg a ffrydiwyd lluniau byw o’r ddeorfa ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol trwy gydol y prosiect, gyda diweddariadau fideo rheolaidd yn cael eu cyhoeddi gan y Wardeiniaid.
    2. Gellir dod o hyd i ffrwd byw, dyddiaduron fideo a rhagor o wybodaeth yma Eryri – Snowdonia (llyw.cymru)
    3. Mae’r prosiect deorfa yn cael ei arwain gan Wasanaeth Wardeinio Awdurdod y Parc fel rhan o’i ymrwymiad i brosiect LIFE Afon Dyfrdwy sydd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru.
    4. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards – Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru