Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Cronfa Cymunedau Eryri (CCE) yn gronfa er budd cymunedau o fewn ac o amgylch Eryri a fydd yn ymateb i gynorthwyo y cymunedau rhain i gynnal a gwella ansawdd bywyd preswylwyr ac adeiladu cymunedau cydnerth.

Mi fydd y gronfa’n manylu ar nifer o themau megis seilwaith gwyrdd, gwell mynediad at hamdden ar gyfer iechyd a lles, cynhyrchu ynni, datgarboneiddio, gwelliannau amgylcheddol lleol megis rheoli sbwriel a gwastraff, datblygu cymunedol a’r Iaith Gymraeg.

Dywedodd Gwenno Llwyd Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cydnabod y pwysigrwydd y rôl mae’n chwarae mewn gwarchod ein cymunedau lleol. Trwy’r gronfa, mi fydd yr Awdurdod yn rhoi’r cyfle i’r cymunedau hyn ddatblygu prosiectau eu hunain fydd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy i bawb”.

Mae’r Awdurdod yn deall mai’r cymunedau lleol sydd a’r arbenigedd i ddeall eu hanghenion eu hunain a datblygu prosiectau fydd yn gweithio iddyn nhw. Mi fydd prosiectau’r gronfa felly yn cael eu harwain gan y cymunedau eu hunain gyda chefnogaeth yr Awdurdod ac mi fydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan y panel os byddant yn cydymffurfio gyda’r themâu.

 

Mi fydd y gronfa yn darparu arian cyfalaf er mwyn cefnogi prosiectau megis y canlynol:

Egni Gwyrdd: Prosiectau fydd yn hyrwyddo egni adnewyddol megis solar, gwynt neu hydro ac yn lleihau’r defnydd o adnoddau egni anadnewyddadwy.

Gwell mynediad i iechyd a lles: Prosiectau fydd yn cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol cymunedau lleol megis mentrau cerdded neu feicio neu creu gerddi cymunedol.

Rheoli gwastraff: Prosiectau sydd a’r amcan o leihau gwastraff a sbwriel yn eu cymunedau megis mentrau ailgylchu neu gynllun compostio.

Datblygiad cymunedol: Prosiectau fydd yn datblygu cydlyniant cymunedol megis gynnal digwyddiadau neu grwpiau cymunedol.

Yr iaith Gymraeg:  Prosiectau fydd yn defnyddio ac yn hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg megis byrddau dehongli, arwyddion neu ddosbarthiadau dysgu’r iaith.

Mae prosiectau llwyddiannus yn y gorffennol wedi cynnwys arwyddion dehongli Tŷ Hyll, offer technoleg gwybodaeth i Neuadd Bentref Llanuwchllyn a gwelliannau i Ganolfan Abergynolwyn.

Mi fydd grantiau cyfalaf rhwng £5,000 ac £20,000 yn cael eu cyflwyno i brosiectau fydd yn cyrraedd y meini prawf ac yn cael eu cymeradwyo gan y panel. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ymrwymo i gefnogi datblygiadau cynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol ac yn hyderus bydd y gronfa gymunedol yn adnodd gwerthfawr i’n cymunedau lleol.

DIWEDD.

Nodyn i Olygyddion

  1. Am ymholiadau’r wasg cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru
  2. Am fwy o wybodaeth am y gronfa cysylltwch gyda Gwenno Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar 01766 772257 neu cronfacymunedaueryri@eryri.llyw.cymru
  3. Am fwy o wybodaeth ewch i’r dudalen wê berthnasol ar ein gwefan.