Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’n amod wrth i chi ddefnyddio’r siop ar-lein eich bod yn cytuno bod unrhyw drafodiad a wnewch yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau hyn. Rydym yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg, ond dim ond pan fyddwn wedi ei bostio ar y wefan y bydd unrhyw newid yn dod i rym.

Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus bob tro y byddwch yn defnyddio’r siop ar-lein.

Diffniadau & Adnabyddiaeth

APCE – Mae’r siop ar-lein hon yn cael ei rhedeg o Brif Swyddfa Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF.
Chi – ein cwsmer: y sawl sy’n prynu neu’n cytuno i brynu nwyddau gan APCE.
Cyflenwr – unrhyw drydydd parti y mae APCE wedi prynu neu gaffael nwyddau neu wasanaethau ganddynt ar gyfer eu hail-werthu i chi.
Nwyddau – yr eitemau yr ydych chi’n cytuno i’w prynu gan APCE.
Pris – y pris am y Nwyddau.

Nid yw’r prisiau a ddangosir yn cynnwys costau dosbarthu ond maent, lle bo hynny’n berthnasol yn cynnwys TAW a godir ar y gyfradd sy’n gymwys (ar hyn o bryd 20%).

Bydd costau Postio a Phecynnu yn cael eu hychwanegu wrth y ddesg dalu.

Mae APCE yn cadw’r hawl i newid unrhyw brisiau a hysbysebir ar unrhyw adeg.

Prynu

Ni allai prynu fod yn haws. Ewch ati i bori drwy’r siop ar-lein a chliciwch ar unrhyw eitem / nwyddau yr hoffech eu prynu a’u hychwanegu at eich trol siopa. Pan fyddwch wedi gorffen gwneud eich dewis, cliciwch ar y ddesg dalu a dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i gwblhau eich trafodiad.

Taliad

Mae’r holl drafodion ariannol yn cael eu trin gan Sage Pay a bydd yn cael ei ddebydu o’ch cyfrif yn syth ar ôl i chi archebu. Ni fyddwn yn cadw cofnod o fanylion eich cerdyn.

Dosbarthu

Rhaid talu yn llawn cyn y gall eich archeb gael ei derbyn. Mae’r e-bost sy’n cadarnhau derbyn eich archeb yn creu cytundeb rhwymol ar werthiant y nwyddau, yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau hyn. Mae’r holl nwyddau yn cael eu cynnig ar werth gan ddibynnu a ydynt ar gael, ac am y pris a restrir ar ein gwefan ar ddyddiad eich archeb.

DU

  • Pris postio a Phecynnu yw £2.50 am bob archeb a bydd yn cael ei ychwanegu wrth y ddesg dalu.
  • Rydym yn ceisio diweddaru’r safle yn gyson gyda chynhyrchion sydd mewn / allan o stoc a byddwn yn eu hanfon o fewn 3 diwrnod gwaith gyda phost 2il ddosbarth y Post Brenhinol.
  • Os nad yw unrhyw gynhyrchion mewn stoc, byddwn yn eich cynghori beth fydd / yw y dyddiad dosbarthu yn fras. Yn yr achos hwn fe all gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i anfon eich nwyddau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich cyfeiriad yn gwbl glir os gwelwch yn dda oherwydd y chi fydd yn gyfrifol am dalu’r costau ychwanegol am ailddosbarthu.
  • Unwaith y bydd nwyddau yn cael eu dosbarthu ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw oedi yn y post ac i’r perwyl hwn, ni fyddwn yn ymrwymo i unrhyw gytundeb iawndal petai’r dosbarthiad yn hwyr, petai methiant wrth ddosbarthu neu petai unrhyw eitem yn mynd ar goll wrth gael ei gludo.
  • O dan yr amgylchiadau annhebygol nad ydym yn gallu cyflenwi’r archeb gyfan neu ran o’ch archeb, byddwn yn cysylltu â chi a bydd yr ad-daliad priodol yn cael ei roi.
  • Darperir gwybodaeth ynghylch dosbarthu fel canllaw yn unig ac nid yw’n rhwymol.

Rhyngwladol
Yn anffodus dim ond i gyfeiriadau yn y DU y gallwn ddosbarthu ar hyn o bryd.

TAW

Mae TAW ar y gyfradd gyfredol wedi cael ei gynnwys ar bob pris lle bo hynny’n berthnasol.

Disgrifiadau a manyleb cynnyrch

Weithiau efallai y bydd manylebau cynnyrch gan y gwneuthurwr yn newid, ac os felly, byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig rhywbeth arall tebyg i chi o’r un ansawdd neu yn cynnig rhywbeth o ansawdd gwell am yr un pris i chi. Os nad ydych yn fodlon gyda’r cynnig a wneir yna gallwch ei ddychwelyd yn unol â’n Polisi Dychwelyd.

Mae’r holl feintiau a’r mesuriadau a roddir yn rhai bras, ond rydym yn ceisio gwneud yn siŵr eu bod mor gywir â phosibl.

Polisi Dychwelyd

Os ydych yn dymuno dychwelyd eitem, mae angen i ni ei dderbyn yn ôl, yn y cyflwr y cafodd ei anfon, o fewn 28 diwrnod wedi i chi ei dderbyn os ydych am gael ad-daliad neu am gyfnewid. Gofynnwn i chi ddychwelyd y nwyddau heb eu defnyddio yn y pecynnau gwreiddiol (lle bo’n berthnasol) os gwelwch yn dda. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Gan mai chi sy’n gyfrifol am y nwyddau hyd nes eu bod yn ein cyrraedd ni, gwnewch yn siwr eich bod yn pacio’r hyn ‘rydych yn ei ddychwelyd i atal unrhyw ddifrod i’r nwyddau eu hunain na’r blychau sydd amdanynt.

Rydym yn cadw’r hawl i wrthod nwyddau sy’n cael eu dychwelyd sydd wedi cael eu difrodi oherwydd nad oeddynt wedi cael eu hail-becynnu yn briodol.

Rydym yn cadw’r hawl i wrthod nwyddau sy’n cael eu dychwelyd nad ydynt yn y cyflwr y cawsant eu dosbarthu. Yn yr un modd rydym yn cadw’r hawl i gynnig cyfnewid neu ad-daliad yn ôl ein disgresiwn.

Ac eithrio nwyddau diffygiol neu wedi eu difrodi ni fyddwn yn gyfrifol am gostau postio dychwelyd nwyddau ac rydym yn eich cynghori i gael ‘prawf postio’ rhag ofn i’r parsel / pecyn fethu ein cyrraedd.

Sylwer y gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i brosesu nwyddau wedi eu dychwelyd.

Canslo

Mae gennych yr hawl gyfreithiol i ganslo eich archeb o fewn saith diwrnod gwaith wedi i chi dderbyn y nwyddau o dan y Rheoliadau Gwerthu o Bell. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y nwyddau yn cael eu dychwelyd yn y cyflwr y cawsant eu hanfon. Mae’n rhaid i chi gymryd gofal rhesymol o’r eitem a’i dychwelyd heb ei defnyddio, yn y deunydd pacio priodol. Oni bai ein bod yn danfon / dosbarthu’r eitem i chi mewn camgymeriad, neu fod yr eitem yn ddiffygiol, chi fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am unrhyw gostau dosbarthu a chost dychwelyd yr eitem i ni. Er mwyn eich diogelu ac er lles tawelwch meddwl, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth Prawf Postio y Post Brenhinol neu wasanaeth cofnodi postio tebyg.

I ganslo’r hyn a brynwyd gennych, mae’n rhaid i chi ddychwelyd yr eitem o fewn 7 diwrnod wedi i chi ei derbyn gan ddyfynnu’r rhif archeb i’r cyfeiriad canlynol:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Nwyddau Diffygiol

Rydym eisiau i chi fod yn gwbl fodlon gyda phob pryniant a wnewch o’r siop ar-lein. Os yw eitem yn ddiffygiol neu’n mynd yn ddiffygiol rhowch wybod i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich eitemau yn ofalus cyn eu defnyddio neu eu gosod. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cadw eich derbynneb neu rif eich archeb oherwydd efallai y byddwch ei angen fel prawf prynu petai yna unrhyw ymholiadau yn codi ar ôl y gwerthiant.

Petaech yn cael problem gydag eitem ddiffygiol:

Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau i Ddefnyddwyr dylech nodi a yw’n well gennych gael amnewid, atgyweirio neu ad-daliad. Byddwn yn ceisio bodloni eich dewis, ond os na allwn wneud gwaith atgyweirio neu gyflenwi cynnyrch newydd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi o’r pris prynu gwreiddiol ac unrhyw gostau danfon a achoswyd wrth i chi ddychwelyd yr eitemau diffygiol.

Camgymeriadau neu hepgoriadau

Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr holl brisiau a’r disgrifiadau yn y siop ar-lein yn gywir ac yn gyfredol. Os byddwn yn darganfod gwall ym mhris y nwydd (au) yr ydych wedi ei archebu, neu wall perthnasol neu hepgoriad yn y disgrifiad ohonynt, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bo modd ac yn rhoi’r opsiwn i chi roi archeb newydd (am y pris cywir) neu ganslo eich archeb. Os na allwn gysylltu â chi, byddwn yn trin yr archeb fel un sydd wedi’i chanslo. Os yw’r archeb yn cael ei chanslo a chithau eisoes wedi talu am y nwyddau, byddwch yn derbyn ad-daliad llawn.

Gwrthod Trafodiad

Gallwn wrthod prosesu trafodiad am unrhyw reswm neu wrthod gwasanaeth i unrhyw un ar unrhyw adeg yn ôl ein disgresiwn.

Risg / Teitl

Mae perchnogaeth nwyddau a archebwyd drwy gyfrwng y wefan hon yn trosglwyddo i chi pan fo’r nwyddau yn cael eu darparu i chi, neu ar yr adeg pan fo taliad am y nwyddau yn cael ei dderbyn gan APCE, p’un bynnag yw’r diweddaraf.

Fodd bynnag, nid yw perchnogaeth unrhyw hawlfraint, patent nac unrhyw nod masnach yn trosglwyddo i chi, ac ni chewch gopïo nac atgynhyrchu’r nwyddau heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint, patent neu’r nod masnach.

Diogelu Data

I archebu nwyddau gennym mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol a pan fyddwch yn gwneud hyn rydych yn cytuno i ddarparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn amdanoch chi eich hun fel y gofynnir i chi wneud ar y ffurflen berthnasol.

Delir yr holl ddata personol a fyddwch yn ei rhoi i ni er mwyn ein galluogi i brosesu eich archeb yn cael ei gynnal yn unol â’n polisi diogelu data a ddefnyddir gennym i ymdrin â’ch archeb, oni bai eich bod yn cytuno fel arall.

Nid yw APCE yn cadw manylion cardiau credyd.

Nid yw APCE yn ac ni fydd yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti heb ganiatâd perchennog y cerdyn.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Ildiad

Ni fydd hawliau APCE yn cael eu niweidio nac eu cyfyngu gan unrhyw oddefgarwch neu faddeugarwch a ymestynnir ganddo i chi, ac ni fydd ildiad unrhyw dor-rheol penodol yn gweithredu fel ildiad ar gyfer unrhyw dor-rheol dilynol.

Terfynu

Bydd unrhyw ddarpariaeth yn y cytundeb hwn sydd, neu a fydd efallai yn ddi-rym neu’n amhosib i’w orfodi, yn cael ei ystyried yn unol â graddfa di-rymedd o’r fath ac amhosibilrwydd yr orfodaeth, yn derfynadwy ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw ddarpariaeth arall o’r cytundeb hwn.

Cyffredinol

Ni fydd APCE yn rhwymedig i ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw golled anuniongyrchol a / neu dreuliau sy’n deillio o dorri’r cytundeb hwn gennym ni.

Mewn achos o unrhyw dorri’r cytundeb gennym ni, bydd camau unioni yn gyfyngedig i iawndal. Ni fydd ein hatebolrwydd, o dan unrhyw amgylchiadau yn fwy na phris uchaf yr eitem (au) a gyflenwyd neu swm unrhyw yswiriant dilys sydd ar gael i setlo’r hawliad.

Ni fydd APCE yn atebol am fethiant nac am oedi wrth gyflawni unrhyw un o’i rwymedigaethau, lle bo cyflawni hynny yn cael ei atal, rwystro, ei lesteirio neu pan fernir ei fod yn aneconomaidd o ganlyniad i amgylchiadau neu ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth resymol.

Ni fydd darpariaethau’r Ddeddf Cytundebau (Deddf Hawliau Trydydd Partïon Ddeddf) 1999 yn gymwys i’r cytundeb hwn ac ni fydd gan unrhyw berson nad ydynt yn rhan o’r cytundeb hwn unrhyw hawl o dan y Ddeddf honno i orfodi unrhyw delerau o’r cytundeb.

Ni fydd y naill barti na’r llall yn atebol am unrhyw ddiofyniad o ganlyniad i unrhyw weithred gan Dduw, rhyfel, aflonyddwch sifil, difrod maleisus, streic, cloi allan, gweithredu diwydiannol, tân, llifogydd, sychder, tywydd eithafol, cydymffurfio ag unrhyw gyfraith neu orchymyn, rheol, rheoleiddio, cyfarwyddyd llywodraethol nac unrhyw amgylchiadau eraill y tu hwnt i reolaeth resymol y naill barti neu’r llall (‘Digwyddiad Force Majeure’). Rhaid i’r naill barti roi gwybod / rhybudd i’r llall unwaith y byddant yn ymwybodol o Ddigwyddiad Force Majeure : dylai’r rhybudd nodi manylion yr amgylchiadau a arweiniodd at y Digwyddiad Force Majeure.

Bydd yr amodau hyn a’r holl gytundebau rhwng APCE a chwithau yn cael eu llywodraethu gan, ac yn cael eu llunio yn unol â deddfau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfodau yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.