Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Mae nofio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr mewn llynnoedd ac afonydd yn ffordd arbennig o fwynhau Eryri.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nofio gwyllt wedi dod yn weithgaredd hynod boblogaidd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i les corfforol a meddyliol. Mae gweithgareddau megis padl-fyrddio hefyd yn boblogaidd ar lynnoedd a thraethau.

Ble i nofio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr

Mae modd llogi offer gweithgareddau dŵr mewn rhai o’r lleoedd hyn hefyd.

Llyn Tegid
Llyn naturiol mwyaf Cymru a lle perffaith i nofio, padl-fyrddio, canŵio a phob math o weithgareddau dŵr eraill. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen Llyn Tegid.
Llyn Padarn
Mae Llyn Padarn yn eistedd ar gyrion ffiniau’r Parc Cenedlaethol ym mhentref Llanberis. Mae’r llyn yn boblogaidd â nofwyr a’r rheini sy’n hoff o weithgareddau dŵr.
Afon Tryweryn
Mae Afon Tryweryn, ger Y Bala, yn gartref i ganolfan cenedlaethol i chwaraeon dŵr gwyn.
Llyn Gwynant
Mae Llyn Gwynant yn eistedd ar droed Yr Wyddfa yn ardal Nant Gwynant. Dyma lun poblogaidd ar gyfer nofio a gweithgareddau dŵr.
Traeth Aberdyfi
Traeth tywodlyd a phrydferth yn ne’r Parc Cenedlaethol—lle perffaith i nofio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr megis syrffio.
Traeth Abermaw
Traeth yn ardal gorllewinol y Parc Cenedlaethol gyda golygfeydd dros Fae Ceredigion.
Diogelwch mewn llynnoedd ac afonydd

Cadwch yn ddiogel pan yn ymweld â llynnoedd ac afonydd.

Gwiriwch am beryglon
Peidiwch a neidio neu ddeifio mewn i byllau neu afonydd heb wirio nad oes peryglon o dan y dŵr yn gyntaf a sicrhau fod y dŵr yn ddigon dwfn.
Cerrynt cryf
Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf neu ddŵr sy’n llifo’n gyflym, yn enwedig o amgylch rhaeadrau a dyfroedd gwyllt.
Germau yn y dŵr
Gorchuddiwch unrhyw friwiau â phlasteri sy’n dal dŵr. Defnyddiwch esgidiau i nadu cael briwiau ar eich traed tra yn y dŵr. Peidiwch a llyncu’r dŵr a chysylltwch â meddyg os yn dangos unrhyw symptomau anarferol.
Offer
Os yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr, gwisgwch siaced achub. Os yn nofio, gwisgwch gap nofio llachar a chario dyfais arnofio.
Mynediad i mewn ac allan o’r dŵr
Sicrhewch eich bod chi’n gwybod sut a lle i fynd i mewn ac allan o’r dŵr yn ddiogel cyn i chi fentro i lyn neu afon.
Gwirio, Glanhau a Sychu

Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol yn fygythiad difrifol i’n bywyd gwyllt a’n hecosystemau lleol. Felly, mae bioddiogelwch yn fater pwysig i holl ddyfroedd mewndirol y DU. Byddem yn annog pob defnyddiwr dŵr i gadw at ganllawiau Gwirio, Glanhau a Sychu i osgoi dod â’r rhywogaethau hyn i’n dyfroedd.

Gwirio
Gwiriwch eich offer, eich cwch a’ch dillad ar ôl gadael y dŵr, gan edrych am laid, anifeiliaid dyfrol neu blanhigion. Gwaredwch bopeth y dewch o hyd iddo, a’i adael ar y safle.
Glanhau
Glanhewch bopeth yn drylwyr cyn gynted ag y gallwch, gan roi sylw i ardaloedd sy’n llaith neu’n anodd eu cyrraedd. Defnyddiwch ddŵr poeth os gallwch chi.
Sychu
Sychwch bopeth am gymaint o amser â phosib cyn ei ddefnyddio mewn man arall oherwydd gall rhai anifeiliaid a phlanhigion goresgynnol oroesi am fwy na phythefnos mewn amodau llaith.
Diogelwch ar draethau

Cadwch yn ddiogel pan yn ymweld â thraeth.

Gwiriwch amseroedd y llanw
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio amseroedd y llanw cyn mynd i nofio yn y môr.
Dewis traeth ag achubwyr bywyd
Os yn bosib, dewiswch draeth gydag achubwyr bywyd a defnyddiwch y darn o’r môr sydd rhwng y baneri coch a melyn.
Gwyliwch allan am gerhyntau deufor-gyfarfod (riptides)
Os cewch eich dal mewn cerrynt deufor-gyfarfod, peidiwch â mynd i banig na cheisio nofio yn erbyn y cerrynt. Bydd angen i chi sefyll a cherdded yn ôl i’r lan os ydych chi’n gallu gwneud hynny. Fel arall, dylech nofio yn gyfochrog â’r lan, codi eich llaw a gweddi am gymorth.
Cwestiynau cyffredin

Na, chewch chi ddim mynd i nofio mewn unrhyw lyn neu afon yn Eryri. Mae llawer o lynnoedd ac afonydd y Parc Cenedlaethol wedu eu lleoli ar dir preifat. Nid oes gennych hawl nofio yn y llynnoedd hyn heb ganiatâd perchennog y tir.

Yn ogystal, mae rhai llynnoedd ac afonydd yn gronfeydd dŵr yfed a ni chaniateir nofio yn y llynnoedd hyn.

Mae llynnoedd eraill, megis Llyn Idwal yng Nghwm Idwal, wedi eu lleoli mewn ardaloedd o warchodfeydd natur. Ni ddylech gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr ar y llynnoedd hyn ac osgoi nofio ynddynt.

Mewn ardaloedd mewndirol, dylech alw 999 ar unwaith a gofyn am yr heddlu ac yna’r gwasanaeth Achub Mynydd.

Os ydych ar draeth, dylech alw 999 a gofyn am yr heddlu ac yna Gwylwyr y Glanau.

Diogelwch yn y Parc Cenedlaethol