Mae modd llogi offer gweithgareddau dŵr mewn rhai o’r lleoedd hyn hefyd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nofio gwyllt wedi dod yn weithgaredd hynod boblogaidd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i les corfforol a meddyliol. Mae gweithgareddau megis padl-fyrddio hefyd yn boblogaidd ar lynnoedd a thraethau.





Ystyriaethau amgylcheddol
Gall eli haul a hufen corff / dwylo o bob math y mae pobl yn eu defnyddio gynnwys llawer o gyfansoddion cemegol ac olewau a all fod yn niweidiol iawn i ecoleg ein dyfroedd croyw a morol – mae’r rhain yn cynnwys nifer o rywogaethau fel y poblogaethau pysgod, infertebratau, ystod eang o blanhigion dŵr, adar dŵr a mamaliaid sy’n ddibynnol ar ddŵr fel llygod dŵr a dyfrgwn.
Felly byddwch yn ofalus ac yn ymwybodol o’r mater hwn a defnyddiwch unrhyw gynhyrchion o’r fath yn ofalus. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn defnyddio dim ond y rhai nad ydynt yn niweidiol yn fiolegol.
Peidiwch â gadael sbwriel (gan gynnwys gwastraff bwyd organig) ar unrhyw adeg.
Na, chewch chi ddim mynd i nofio mewn unrhyw lyn neu afon yn Eryri. Mae llawer o lynnoedd ac afonydd y Parc Cenedlaethol wedu eu lleoli ar dir preifat. Nid oes gennych hawl nofio yn y llynnoedd hyn heb ganiatâd perchennog y tir.
Yn ogystal, mae rhai llynnoedd ac afonydd yn gronfeydd dŵr yfed a ni chaniateir nofio yn y llynnoedd hyn.
Mae llynnoedd eraill, megis Llyn Idwal yng Nghwm Idwal, wedi eu lleoli mewn ardaloedd o warchodfeydd natur. Ni ddylech gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr ar y llynnoedd hyn ac osgoi nofio ynddynt.
Mewn ardaloedd mewndirol, dylech alw 999 ar unwaith a gofyn am yr heddlu ac yna’r gwasanaeth Achub Mynydd.
Os ydych ar draeth, dylech alw 999 a gofyn am yr heddlu ac yna Gwylwyr y Glanau.