Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Bydd yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, yn ymestyn eu cynnig i grwpiau eleni trwy roi mwy o brofiadau a theithiau tywys yn yr awyr agored.

Mae’r Ysgwrn wedi gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr dros y ddwy flynedd diwethaf yn sgil y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau Covid.

Ond maent eleni yn gobeithio y byddant yn gallu cynnig teithiau tywys llawn o amgylch y ffermdy fel yn y gorffennol yn ogystal â theithiau newydd i grwpiau o amgylch y ffridd a phentref Trawsfynydd.

Parc Cenedlaethol Eryri sydd berchen yr Ysgwrn ers i nai Hedd Wyn, y diweddar Gerald Williams, ei werthu iddyn nhw yn 2012.

Dywedodd Naomi Jones,  Pennaeth Treftadaeth y Parc Cenedlaethol, sydd gyda chyfrifoldeb dros yr Ysgwrn,

“Mae’r cyfnod clo a’r cyfyngiadau dros y ddwy flynedd diwethaf wedi gwneud i ni edrych yn ehangach ar botensial yr Ysgwrn a sut y gallwn ni wneud gwell defnydd o’r gofod tu allan er mwyn rhoi darlun cyflawn o fywyd Hedd Wyn.

“Fel mab fferm a bachgen ifanc, mae’n debyg y byddai wedi treulio cyfran helaeth o’i fywyd yn y ffridd neu y pentref, ac rydym yn awyddus i gynnwys yr amgylchedd ehangach y cafodd ei fagu ynddi yn ein teithiau tywys i grwpiau.”

Mae’r Ysgwrn yn bwriadu cynnig taith o amgylch y ffridd, sef tir fferm Yr Ysgwrn – y tir a’r golygfeydd fyddai wedi ysbrydoli nifer o gerddi’r bardd.  Mae placiau gyda cherddi Hedd Wyn eisoes wedi eu gosod mewn mannau perthnasol ar y llwybr trwy’r ffridd.

Maent hefyd am gynnig taith dywys o amgylch pentref Trawsfynydd, i ddangos mannau pwysig megis ble gafodd Hedd Wyn ei eni, y capel oedd y teulu yn aelodau ynddo a hanes y gofeb yng nghanol y pentre.

Ychwanegodd Naomi,

“Mae’n gyffrous ein bod yn gallu ymestyn ein cynnig i grwpiau. Mi fydd y daith o amgylch y ffermdy dal i fod yn bwysig ac yn allweddol i roi darlun o fywyd Hedd Wyn, ond mi fydd y teithiau tywys yma yn gallu rhoi rhywbeth bach ychwanegol i grwpiau.

“Mae hefyd yn golygu y gall grwpiau, os ydyn nhw yn teithio o bell neu agos, wneud diwrnod ohoni yn yr Ysgwrn a chael eu trochi yn yr hanes diddorol.”

Mae ymweliad grŵp yn costio £12.50 y pen, ac yn cynnwys taith o amgylch y ffermdy, sgwrs am fywyd Hedd Wyn a phaned a chacen yn y caffi.

Os ydych chi yn awyddus i fynd ar un o’r teithiau tywys newydd, unai yn hytrach na’r daith o amgylch y ffermdy neu yn ychwanegol at hynny, mae croeso i chi gysylltu i drafod pris trwy e-bostio yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru.”