Byddwch yn hynod ofalus bob amser wrth ddefnyddio barbeciw neu gynnau tân yn y Parc Cenedlaethol. Ceisiwch osgoi cynnau tanau a defnyddio barbeciw os gallwch chi.
Peryglon barbeciwiau a thanau agored
Barbeciwiau a thanau agored yw un o brif achosion tanau gwyllt. Gall methu â diffodd barbeciw yn llawn neu beidio â’i waredu’n iawn gynyddu’r risg o achosi tanau gwyllt damweiniol. Mae tanau gwyllt yn niweidio tirwedd Eryri yn ddifrifol. Dylech osgoi defnyddio barbeciw a chynnau tanau os gallwch chi.
Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o dir y Parc Cenedlaethol yn eiddo preifat. Bydd angen i chi gael caniatâd perchennog y tir cyn cynnau unrhyw farbeciw neu dân.
Coginio yn yr awyr agored
Mae llawer o feysydd gwersylla yn Eryri yn caniatáu defnyddio stofiau nwy a barbeciws. Gall tanau agored gael eu cynnau ar rai safleoedd hefyd. Os byddwch yn cynnau barbeciw neu dân, cofiwch bob amser:
- dod o hyd i arwyneb addas i gynnau’r tân neu osod y barbeciw
- sicrhau eich bod yn diffodd y tân neu’r barbeciw yn llwyr
- peidiwch byth â gadael sbwriel ar ôl