Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime
Mae barbeciwiau a thanau agored yn gallu achosi tanau gwyllt

Byddwch yn hynod ofalus bob amser wrth ddefnyddio barbeciw neu gynnau tân yn y Parc Cenedlaethol. Ceisiwch osgoi cynnau tanau a defnyddio barbeciw os gallwch chi.

Peryglon barbeciwiau a thanau agored

Barbeciwiau a thanau agored yw un o brif achosion tanau gwyllt. Gall methu â diffodd barbeciw yn llawn neu beidio â’i waredu’n iawn gynyddu’r risg o achosi tanau gwyllt damweiniol. Mae tanau gwyllt yn niweidio tirwedd Eryri yn ddifrifol. Dylech osgoi defnyddio barbeciw a chynnau tanau os gallwch chi.

Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o dir y Parc Cenedlaethol yn eiddo preifat. Bydd angen i chi gael caniatâd perchennog y tir cyn cynnau unrhyw farbeciw neu dân.

Coginio yn yr awyr agored

Mae llawer o feysydd gwersylla yn Eryri yn caniatáu defnyddio stofiau nwy a barbeciws. Gall tanau agored gael eu cynnau ar rai safleoedd hefyd. Os byddwch yn cynnau barbeciw neu dân, cofiwch bob amser:

  • dod o hyd i arwyneb addas i gynnau’r tân neu osod y barbeciw
  • sicrhau eich bod yn diffodd y tân neu’r barbeciw yn llwyr
  • peidiwch byth â gadael sbwriel ar ôl