Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Parc Cenedlaethol Eryri o bell ffordd. Mae dros 600,000 o bobl yn cerdded i’r copa bob blwyddyn. Mae rhai llwybrau i’r copa hefyd yn ddelfrydol ar gyfer marchogaeth, rhedeg a beicio mynydd.

Mae cyfyngiadau gwirfoddol ar waith ar gyfer gweithgareddau fel beicio mynydd er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad pawb ar y mynydd.

Cyfyngiadau presennol

Rhwng 1 Mai – 30 Medi o 10:00-17:00, nid ydych yn cael:

  • Beicio i neu o gopa’r Wyddfa
  • Defnyddio unrhyw ran o Lwybr Llanberis
  • Defnyddio Llwybr y Mwynwyr rhwng Pen y Pass a Llyn Llydaw
  • Defnyddio Llwybr Cwellyn i gyrraedd y copa. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio’r rhan isaf o Lanberis (Llwybr Cwellyn drwy Faesgwm i Lyn Cwellyn)
  • Defnyddio Llwybr Rhyd Ddu rhwng ardal Pen ar Lôn a’r copa

Nid yw’r cyfyngiadau hyn ar waith rhwng 1 Hydref – 30 Ebrill.

Beicio a’r gyfraith

Cofiwch fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogwyr pan fyddant ar lwybrau ceffylau.