Mae’r rhan fwyaf o dir Parc Cenedlaethol Eryri yn eiddo preifat. Dim ond ar lwybrau a thraciau penodol y caniateir mynediad gan ddefnyddio beic.

Mynediad ar gyfer beicio oddi ar y ffordd a beicio mynydd

Mae llawer o lwybrau a thraciau ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn caniatáu mynediad ar gyfer beicio oddi ar y ffordd. Fodd bynnag, mae’n ddefnyddiol ymgyfarwyddo â’r rheolau cyn mynd cychwyn ar eich taith.

Gallwch ddefnyddio’r mathau canlynol o lwybrau ar gyfer beicio oddi ar y ffordd:

  • llwybrau ceffylau
  • cilffyrdd cyfyngedig
  • cilffordd sy’n agored i bob traffig
  • llwybrau a thraciau beicio dynodedig

Mae’n bwysig nodi:

  • Dim ond cerddwyr yn unig gaiff ddefnyddio llwybrau cyhoeddus
  • Nid oes hawl mynediad gyda beic heb ganiatâd perchennog y tir ar dir mynediad agored, ac eithrio lle mae llwybr ceffylau presennol neu gilffordd gyfyngedig yn croesi’r tir.

Beicio mynydd ar Yr Wyddfa

Byddwch yn ymwybodol bod cyfyngiadau mewn lle ar adegau arbennig o’r flwyddyn sy’n effeithio ar fynediad beicio oddi ar y ffordd ar yr Wyddfa.

Beicio mynydd ar Yr Wyddfa