Dilynwch y Côd Cefn Gwlad i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn cael ei warchod am genedlaethau i ddod.
Wrth ddilyn canllawiau’r cod cefn gwlad, gallwn sicrhau fod ardaloedd a bywyd gwyllt Eryri wedi eu diogelu i’r dyfodol.
Mae’r Côd Cefn Gwlad yn ganllaw ar gyfer ymweld â chefn gwlad, ardaloedd o harddwch naturiol ac ardaloedd amaethyddol megis Parc Cenedlaethol Eryri. Dylech ddilyn y côd cefn gwlad bob tro’r rydych chi’n ymweld â’r ardaloedd hyn.
Mae saeth melyn yn symbol sy’n dynodi llwybr cyhoeddus i gerddwyr a defnyddwyr sgwteri symudedd yn unig.
Mae saeth las yn symbol sy’n dynodi llwybr i gerddwyr, defnyddwyr sgwteri symudedd, beicwyr a marchogwyr.
Mae saeth borffor yn symbol sy’n dynodi llwybr i gerddwyr, defnyddwyr sgwteri symudedd, beicwyr, marchogwyr a cherbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau.
Mae’r math yma o dir ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symudedd. Mae’n cael ei ddynodi gyda symbol o ffigwr brown. Does dim rhaid i gerddwyr aros ar lwybrau ar diroedd mynediad agored.
Mae’r symbol o ffigwr brown â chroes goch yn dynodi diwedd tir mynediad agored.