Archebwch le ymlaen llaw mewn maes gwersylla swyddogol. Peidiwch â gwersylla mewn meysydd parcio ac osgoi gwersylla ar ymyl y ffordd neu mewn cilfannau.
Gall teithio mewn cartref modur neu gamperfan fod yn ffordd wych o ddarganfod llawer o leoliadau gwahanol yn Eryri a’r cyffiniau o fewn un daith yn unig.
Er mwyn gallu gwneud y gorau o’ch ymweliad ag Eryri, mae rhai pethau pwysig i chi eu gwybod cyn i chi ymweld.
Mae’r rhan fwyaf o feysydd gwersylla swyddogol Eryri yn addas ar gyfer faniau gwersylla a charafannau. Ni chaniateir aros dros nos mewn maes parcio mewn fan gysgu neu garafán ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Archebu lle mewn maes gwersylla swyddogol yw’r ffordd orau o sicrhau tawelwch meddwl a chyfle i ymlacio’n llwyr yn ystod eich arhosiad.
Ymholiadau Carafannau a Chartrefi Modur
Os hoffech gysylltu ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol gydag unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch carafanau a chartrefi modur, cysylltwch â Swyddog Partneriaethau’r Wyddfa.
Dana Williams
Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
E-bost: dana.williams@eryri.llyw.cymru
Rhagor o wybodaeth
Gellir cael rhagor o wybodaeth am aros mewn carafanau, faniau gwersylla a chartrefi modur ar y dolenni canlynol:
The Camping & Caravanning Club (Uniaith Saesneg)
Caravan & Motorhome Club (Uniaith Saesneg)