Cwestiynau Cyffredin: Cynllun Rheoli Parcio Peilot Betws y Coed

Er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion ariannol sy’n wynebu’r Awdurdod, ac yn unol â’r cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu incwm rydym wedi cyflwyno cynllun peilot i weithredu systemau adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) i’n meysydd parcio.  

Cyflwynwyd y cynllun peilot er mwyn cynorthwyo i reoli meysydd parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn fwy effeithiol, sicrhau y telir y taliadau parcio cywir, gwella profiad ymwelwyr a chyfrannu tuag at gynnal a chadw a rheolaeth barhaus y safleoedd.

System gamera yw ANPR (Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig), sy’n darllen rhifau cerbydau wrth iddynt fynd i mewn ac allan o faes parcio. 

Mae’n cofnodi amser cyrraedd a gadael cerbyd, gan gynorthwyo i reoli parcio yn deg ac effeithlon. Nid yw’r system yn cofnodi pwy sy’n gyrru’r cerbyd, ac mae’r holl ddata yn cael ei drin yn unol â GDPR a deddfwriaeth diogelu data perthnasol.  

  

Bydd y system newydd yn cael ei weithredu o’r 15fed o Fawrth 2027 (cyn dechrau’r prif dymor) 

Bydd Cae Llan (arhosiad byr) yn parhau fel maes parcio Arhosiad Byr o hyd at 2 awr, gyda cheir yn cael pacio dros nos o 18:00 tan 08:00 am dariff dros nos o £1.00. 

Rydym wedi derbyn sylwadau a chwynion rheolaidd ynghylch diffyg cyfleusterau parcio arhosiad byr yn y pentref ac mae data diweddar yn dangos bod cerbydau’n parcio am gyfnodau hir yng Nghae Llan. Bydd y newid hwn yn gwella argaeledd gofodau parcio tymor byr (hyd at uchafswm o 2 awr. 08:00 tan 18:00 yn ddyddiol). 

Bydd Stryd yr Orsaf Betws y Coed (Arhosiad Hir) yn parhau i fod yr opsiwn ar gyfer arhosiad hir gyda’r tariff presennol yn weithredol. Gofynnwn am adborth ynghylch ychwanegiad tariff 1 awr am £1.50 er mwyn cynnig opsiynau pellach i ddefnyddwyr arhosiad byr. Bydd unrhyw gynnydd i’r tariff presennol yn cael ei ystyried a’i benderfynu gan yr Awdurdod llawn. 

Mae Cais Cynllunio’n cael ei baratoi ar gyfer y system newydd ar hyn o bryd. Bydd y Cais Cynllunio’n cael ei gyflwyno tuag at ddiwedd mis Medi a bydd yn cael ei ystyried mewn Pwyllgor Cynllunio a Mynediad dilynol. Bydd y cais cynllunio’n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ac yn rhoi cyfle i ymgynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau fydd yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar y cais. 

Bydd y system yn weithredol gydol y flwyddyn.

Byddwn yn cynnal sesiwn galw i mewn ar gyfer busnesau yn y Ganolfan Groeso ym Metws y Coed ar ddydd Iau yr 17eg o Fedi rhwng 15:00 a 19:00 er mwyn rhannu gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Bydd Initial Parking yn rheoli’r system ANPR ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Maent yn gweithredu yn unol â Chod Ymddygiad y British Parking Association (BPA) ac yn cydymffurfio â holl reoliadau perthnasol yr Asiantaeth Trwyddedau Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) er mwyn sicrhau bod data personol yn cael ei drin yn ddiogel ac yn briodol. Mae Initial Parking eisoes yn rheoli maes parcio Eglwys y Santes Fair ym mhentref Betws y Coed, yn ogystal â nifer o feysydd parcio eraill ledled gogledd Cymru.

Mae gwelliant i’r Gronfa Gymunedol wedi ei glustnodi a ariennir o’r refeniw parcio er mwyn cefnogi digwyddiadau a phrosiectau cymunedol. Am ragor o wybodaeth ewch i: Cronfeydd Cymunedol Eryri – Parc Cenedlaethol Eryri 

Fel sydd wedi ei weithredu yn Llyn Tegid, gellir parcio am hyd at un awr, un waith y dydd am ddim at ddibenion lleol a hamdden yn y maes parcio arhosiad hir o fewn y cyfnodau amser canlynol: 

Parcio am ddim am un awr rhwng 02:00 ac 08:00 

Parcio am ddim am un awr ar ôl 17:30 tan hanner nôs.

Oes. Os ydych yn defnyddio meysydd parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n aml, efallai yr hoffech brynu Trwydded Parcio Blynyddol. Mae’r drwydded yn caniatáu parcio diderfyn mewn meysydd parcio talu ac arddangos cyfrannol Awdurdod y Parc Cenedlaethol am un flwyddyn (1 Ebrill tan 31 Mawrth) am £120. Mae’n eithrio Cae Llan (Arhosiad Byr) a Phen y Pass yn benodol. 

Gallwch ddod o hyd i’r broses o geisio am drwydded ar ein siop ar-lein. 

Fel y ddarpariaeth gyfredol sy’n weithredol ers Mawrth 2026 mae deiliaid Bathodyn Glas yn derbyn dwbl yr amser parcio safonol. Er mwyn elwa o’r ddarpariaeth yma, sicrhewch eich bod yn sganio eich Bathodyn Glas dilys wrth dalu am barcio a mewnbynnu rhif cofrestru eich cerbyd. Rhaid arddangos Bathodynnau Glas yn glir yn ffenestr flaen eich cerbyd trwy gydol yr amser yn ystod eich ymweliad.

Ni chaniateir gwersylla dros nos yn unrhyw un o feysydd parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Anogir ymwelwyr sydd am aros dros nos i ddefnyddio un o’r nifer o wersylloedd dynodedig o fewn ac ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri. 

Ydy, ond cynllun peilot yw hwn fydd yn cael ei fonitro a’i adolygu trwy gydol y tymor. Bydd adborth gan ddefnyddwyr a Chynghorau Cymuned yn cael ei ystyried cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau parhaol yn y dyfodol. 

s oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun peilot, neu os hoffech ddarparu adborth neu wneud sylw, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar parc@eryri.llyw.cymru

Nid yw hyn yn gywir. Ym 1938, rhoddodd perchennog y tir, Ystad Ancaster, brydles 999 mlynedd ar gyfer rhan o’r tir – gan gynnwys maes parcio presennol Cae Llan – i gyn-Gyngor Dosbarth Trefol Betws-y-Coed. Yn sgil newidiadau dilynol i lywodraeth leol, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y brydles i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym 1996.

Roedd y brydles wreiddiol yn cynnwys amod na ellid codi tâl am ddefnyddio’r maes parcio.

Ym 2015, cytunodd yr Ystad a’r Awdurdod ar newid ffurfiol i’r brydles a oedd yn dileu’r cyfyngiad ar godi tâl am barcio ac yn cyflwyno trefniant i’r Ystad dderbyn cyfran o incwm y maes parcio. Galluogodd y cytundeb hwn i’r Awdurdod gyflwyno system ‘talu ac arddangos’ yn Cae Llan. Mae’r brydles a’r newid iddi wedi’u cofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir.