Mae defnyddio gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn ffordd wych o deithio o amgylch ardal Yr Wyddfa, yn ogystal â phrofi golygfeydd trawiadol

Gall ardaloedd poblogaidd fel Yr Wyddfa fod yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf rhwng Ebrill a Medi. Gall defnyddio gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa gyfrannu at deithio cynaliadwy yn ystod y cyfnod prysuraf hwn.

Mae’r gwasanaeth yn teithio o amgylch gwaelod yr Wyddfa gan aros mewn sawl lleoliad – pob un dafliad carreg o’r llwybrau i’r copa.

Amserlenni Sherpa’r Wyddfa

Mae amserlenni Sherpa’r Wyddfa ar gael ar wefan y gwasanaeth.

Amserlenni Sherpa’r Wyddfa

Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan Traveline Cymru i gynllunio eich taith.

Traveline Cymru

Arosfannau ar gyfer Llwybrau'r Wyddfa

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd unrhyw un o’r arosfannau bysiau yn Llanberis. Gallwch ymuno â Llwybr Llanberis o’r pentref.

O Betws y Coed i Llanberis
Defnyddiwch y gwasanaeth S1

O Gaernarfon i Llanberis
Defnyddiwch y gwasanaeth S1

O Fangor i Llanberis
Defnyddiwch y gwasanaeth S2

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Pen y Pass. Gallwch ymuno gyda Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr o Ben y Pass.

O Betws y Coed i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S1

O Gaernarfon i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S1

O Fangor i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S2

O Llanberis i Pen y Pass
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth S1, S2 neu S5

O Nant Peris i Pen y Pass
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth S1, S2 neu S5

O Borthmadog i Pen y Pass
Defnyddiwch y gwasanaeth S4

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Cwellyn Snowdon Ranger YHA. Gallwch ymuno gyda Llwybr Cwellyn o’r arhosfan yma.

O Gaernarfon
Defnyddiwch y gwasanaeth S3

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Rhyd Ddu. Gallwch ymuno gyda Llwybr Rhyd Ddu o’r arhosfan yma.

O Gaernarfon
Defnyddiwch y gwasanaeth S3

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth bws Sherpa i gyrraedd arhosfan Pont Bethania. Gallwch ymuno gyda Llwybr Watkin o’r arhosfan yma.

O Borthmadog
Defnyddiwch y gwasanaeth S4