Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Cefnogi cymunedau Eryri drwy siopa’n lleol

Does dim dwywaith mai tirwedd syfrdanol Eryri yw un o atyniadau pennaf yr ardal ond mae byd i’w ddarganfod yn y trefi a’r pentrefi yn ogystal.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn llawn cynnyrch lleol i’w brofi ac mae cefnogi cynhyrchwyr a busnesau lleol yr ardal yn ffordd wych o gyfrannu at gymunedau lleol.

Profiad siopa unigryw

Mae siopa ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn brofiad unigryw. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i nifer fawr o siopau a busnesau lleol yn ogystal â mentrau annibynnol. 

Anaml iawn y gwelir archfarchnad fawr neu siopau cadwyn o fewn ffiniau Eryri sy’n dyst i agwedd fentrus y cymunedau a’r bobol leol.

Mae llawer o drefi a phentrefi Eryri yn gwlwm o strydoedd cul, wedi eu llenwi â bwydydd a chynnyrch lleol, tafarndai cudd a chaffis cysurus.

Blocks of cheese
Bwyta

O gaffis cysurus mewn trefi canoloesol i fwytai modern, mae digon o gyfleoedd i fwyta allan yn y Parc Cenedlaethol. 

Mae nifer fawr o fwydydd yn cael eu cynhyrchu’n lleol yn Eryri megis cawsiau, cigoedd, mêl a hufen iâ.

Cwrw lleol ar silff siop
Yfed

Ceir nifer i dafarn anghysbell yn Eryri o odrau’r mynyddoedd i gornel guddiedig mewn tref neu bentref. Mae’r tafarndai yn leoedd gwych i dreialu cynnyrch y nifer o gynhyrchwyr cwrw, jin a gwin sydd yn lleol i’r ardal.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i nifer o rostwyr coffi yn ogystal.

Blanced Gymreig draddodiadol
Celf a chrefftau

Mae byw mewn tirwedd mor ddramatig yn ysbrydoliaeth i lawer i fynd ati i gynhyrchu pob math o grefftau a gweithiau celf unigryw. Mae galeriau niferus wedi eu dotio ar hyd a lled y Parc—gan amlaf yn gwerthu gwaith artistiaid a chrefftwyr o’r ardal.

Mae gan Ganolfannau Gwybodaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol ddetholiad o grefftau lleol ar werth yn ogystal.