Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Mae Llyn Tegid yn lecyn arbennig o dda i bysgota, gyda 14 rhywogaeth o bysgod yn llechu yn ei ddyfnderoedd. Pysgod bras sydd yma yn bennaf ac ar benwythnosau yn ystod y gaeaf, mae llawer o bysgotwyr i’w gweld ar hyd ymylon y llyn.

Y pysgod mwyaf poblogaidd sy’n cael eu pysgota yma yw’r draenogiaid, gwrachennod, penhwyaid, brithyll, penllwydion a llyswennod. Gall wardeiniaid y Llyn gynnig gwybodaeth ichi ar lecynnau gorau’r llyn i bysgota.

Cyn pysgota yn Llyn Tegid

Mae’n rhaid i bob pysgotwr fod â thrwydded gwialen yn ogystal â thrwydded pysgota Llyn Tegid cyn pysgota yn Llyn Tegid.

  • Trwydded Gwialen
    Gellir prynu trwydded gwialen mewn aml i siop yn cynnwys Swyddfa Post y Bala neu yn y Ganolfan Wybodaeth ger y Ganolfan Wardeiniaid.
  • Trwydded Pysgota Llyn Tegid
    Gellir prynu trwydded pysgota Llyn Tegid o’r peiriannau talu ac arddangos yn y prif faes parcio ar y blaendraeth.

Rhestr Brisiau Trwyddedau Pysgota

  • Trwydded diwrnod: £5.00
  • Trwydded wythnos: £20.00
  • Trwydded blwyddyn: £40.00
  • Trwydded diwrnod i blentyn: 50p
  • Trwydded blwyddyn i blentyn: £2.50

Lle i brynu trwyddedau

Gallwch brynu trwyddedau ym maes parcio blaendraeth Llyn Tegid gan ddefnyddio’r peiriannau talu ac arddangos.

Gweld y Maes Parcio ar what3words
Gweld y Maes Parcio ar Google Maps