Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Yn ystod misoedd yr haf mae’r llyn yn frith o gychod amryliw, canŵod a byrddau hwylio. Gallwch ddod â’ch cychod/cychod hwylio ac offer eich hun, neu gellir eu llogi ar y safle rhwng y Pasg a mis Medi.

Cyn cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr ar y llun

Rhaid arddangos trwydded ddilys ar gyfer unrhyw chwaraeon dŵr ar Lyn Tegid. Ni chaniateir cychod hwylio dros 19 troedfedd (5.8metr) na chychod pŵer ar y llyn (ag eithrio cychod ag injan drydan).

Rhestr brisiau trwyddedau

Hwylio, Hwylfyrddio neu Rwyfo

  • Trwydded diwrnod: £5.00
  • Trwydded wythnos: £25.00
  • Trwydded blwyddyn: £50.00

Canŵio neu Badlfyrddio

  • Trwydded diwrnod: £5.00
  • Trwydded wythnos: £20.00
  • Trwydded blwyddyn: £40.00

Cawodydd

  • 50c y gawod

Nofio

Nid oes angen trwydded i nofio yn Llyn Tegid. Fodd bynnag, nodwch y gall dŵr y llyn fod yn oer iawn ac mae’r ymylon yn ddwfn mewn mannau. Y blaendraeth yw’r lle mwyaf diogel i nofio. Ni chaniateir nofio oddi ar gwch ar y llyn. Dylai plant sy’n nofio neu chwarae yn y llyn fod dan oruchwyliaeth glos trwy’r amser.

Lle i brynu trwyddedau

Gallwch brynu trwyddedau ym maes parcio blaendraeth Llyn Tegid gan ddefnyddio’r peiriannau talu ac arddangos.

Gweld y Maes Parcio ar what3words
Gweld y Maes Parcio ar Google Maps