Un o rinweddau unigryw ac arbennig Eryri yw’r cyfoeth a’r amrywiaeth o dirweddau sy’n ffurfio ei 823 milltir sgwâr.
O ucheldiroedd syfrdanol i gorsydd anhygoel sy’n storio carbon, mae deall pwysigrwydd tirweddau Eryri yn ein galluogi i wirioneddol werthfawrogi a deall pam fod Eryri yn arbennig.
Ucheldiroedd
Mae ucheldiroedd Eryri yn enwog am eu cadwyni o fynyddoedd trawiadol a’u copaon aruthrol a di-ben-draw. Gyda 15 copa sy’n sefyll dros 3,000 troedfedd, does ryfedd fod ucheldiroedd y Parc Cenedlaethol yn un o’i ffactorau diffiniol, sy’n denu miliynau o bob cwr o’r byd.
Mae tirwedd ucheldirol Eryri yn rhan o bôs daearegol cymhleth, a ffurfiwyd dros filiynau o flynyddoedd drwy ddigwyddiadau daearegol rhyfeddol. Mae cyfandiroedd yn gwrthdaro, llosgfynyddoedd yn ffrwydro a rhewlifoedd sydd wedi cerfio dyffrynnoedd i gyd yn rhan o hanes y dirwedd.
Mae bywyd gwyllt yn ffynnu yma ac yn cynnwys planhigion fel Lili’r Wyddfa sy’n hynod o brin a’r tormaen porffor sy’n tyfu mewn ardaloedd mynyddig eithriadol o oer ac anghysbell.
Yn ogystal, mae’r ucheldiroedd yn gartref i rai o fywyd gwyllt diffiniol y Parc Cenedlaethol fel merlod gwyllt y Carneddau, a’r frân goesgoch sy’n un o’r brain prinnaf ym Mhrydain.
Coedlannau
Disgrifir Eryri yn aml fel rhanbarth hynod fynyddig, ond mae coetiroedd yn cyfrif am tua 17% o’r Parc Cenedlaethol. Mae’r coetiroedd hyn yn gyfoethog mewn coed llydanddail, conwydd a chymysg ac yn gyforiog o greaduriaid prin, planhigion a ffyngau o bob math.
Mae Eryri hefyd yn gartref i fath arbennig o goetir a elwir yn ‘Goedwigoedd Glaw Celtaidd’. Mae Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn gynefinoedd hynod brin a chredir eu bod dan fwy o fygythiad na choedwigoedd glaw trofannol. Dim ond yn agos at y môr y ceir y mathau hyn o goedwigoedd neu goetiroedd – sy’n golygu mai Eryri yw’r lle perffaith ar gyfer y cynefinoedd hyn.
Mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn brosiect cadwraeth sy’n gwarchod ac yn adfer Coedwigoedd Glaw Celtaidd Eryri.
Mawndiroedd
Mae mawndiroedd yn dirweddau hudolus. Mae’r ardaloedd gwlyptirol hyn nid yn unig yn ffynnu gyda bywyd gwyllt a llystyfiant, ond maent hefyd yn digwydd bod yn storfa garbon penigamp ar gyfer byd natur. Mae mawndiroedd yn storio mwy na dwywaith cymaint o garbon â choedwigoedd y byd. Dim ond 3% o arwyneb y byd mae’r rhain yn eu gorchuddio, ond eto, maen nhw’n dal bron i 30% o holl garbon y pridd.
Mae cyfraddau dadelfennu planhigion a llystyfiant mewn mawndiroedd yn hynod o araf o gymharu ag ecosystemau eraill sy’n golygu nad yw planhigion a mwsoglau byth yn dadelfennu’n llwyr. Mae’r amodau hyn yn caniatáu i fawndiroedd storio symiau enfawr o garbon yn y pridd.
Mae mawn dwfn yn storio 17 miliwn tunnell o garbon, sef tua 52% o gyfanswm carbon pridd yn y Parc Cenedlaethol, er mai dim ond 12% o Eryri mae’n ei orchuddio.
Arfordir
Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i 74 milltir o arfordir ysblennydd ac mae’r thraethau a’r glannau mor syfrdanol â’r mynyddoedd a’r coetiroedd. O aberoedd y Ddyfi, y Fawddach a’r Ddwyryd, i draethau ysblennydd Harlech ac Abermaw, mae arfordir Eryri yn gyfraniad mawr i’r amrywiaeth eang o dirweddau o fewn y Parc Cenedlaethol.
Mae anifeiliaid fel dolffiniaid, morloi a llamhidyddion yn ddim ond llond llaw o fywyd gwyllt sy’n galw arfordir Eryri yn gartref iddynt tra bod yna hefyd ddigonedd o blanhigion a llystyfiant sy’n hanfodol i arfordir ffyniannus.
Mae system dwyni Morfa Harlech yn un o’r systemau twyni pwysicaf ym Mhrydain ac yn un o ddim ond llond dwrn o’u math yng Nghymru. Fe’i dynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae’n un o drysorau naturiol cyfoethocaf Cymru, yn llawn o amrywiaeth eang o fywyd gwyllt sydd wedi esblygu’n benodol i fyw mewn cynefin o’r fath.