Dyffryn Ogwen—dyffryn cipio'ch gwynt

Mae Dyffryn Ogwen yn un o gefnlenau mwyaf syfrdanol y Parc Cenedlaethol. Mae’r dyffryn yn fan cychwyn gwych ar gyfer cyrraedd cadwyni mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau ac mae’n gartref i Gwm Idwal − dyffryn rhewlifol syfrdanol sy’n enwog am ei ddaeareg.

Cyrraedd Ogwen
Cyn ymweld ag Ogwen

Mae llinellau melyn dwbwl wedi eu gosod mewn mannau ar hyd yr A5 yn Ogwen. Ni chaniateir parcio ar linellau melyn dwbwl ar unrhyw adeg gan gynnwys ar ochr y ffordd a’r palmant.

Ar adegoedd prysur megis gwyliau’r gwanwyn a’r haf, mae lleoedd parcio yn Ogwen yn llenwi’n gyflym. Dylech ddefnyddio gwasanaethau bws o Fethesda os yw lleoedd parcio yn Ogwen yn llawn.

Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd gyfleus i gyrraedd Dyffryn Ogwen.

Gwasanaeth TrawsCymru T10
Mae gwasanaeth T10 TrawsCymru yn cysylltu Bangor, Bethesda a Betws-y-coed gan fynd heibio Dyffryn Ogwen.

Amserlen Bws T10 (Traws Cymru)

Gwasnaeth Bws Trydan Ogwen
Gwasanaeth bws 9 sedd trydan dyddiol yn rhedeg o Fethesda i Llyn Ogwen. Parcio ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Bethesda am £7.

Amserlen Bws Ogwen

Os ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Dyffryn Ogwen, gallwch barcio yng Nghlwb Pêl-droed Bethesda.

Maes Parcio Clwb Pêl-droed Bethesda
Fee: £7/dydd drwy beiriant talu ac arddangos
Gellir dal gwasanaethau bysiau o bentref Bethesda

Gweld Maes Parcio Clwb Pêl-droed Bethesda ar Google Maps

Gwasanaeth Bws Trydan Ogwen
Mae gwasanaeth bws trydan Ogwen yn ran o Bartneriaeth Ogwen—menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen.

Mae’r gwasanaeth bws 9 sedd yn teithio o bentref cyfagos, Bethesda draw i Llyn Ogwen.

Mae modd parcio ym maes parcio Clwb Pêl-droed Bethesda a dal y bws o’r pentref.

Ffi Parcio Clwb Pêl-droed Bethesda: £7

Gweld maes parcio’r Clwb Pêl-droed ar Google Maps

Amserlen Bws Ogwen
Gwefan Partneriaeth Ogwen

Nifer cyfyngedig o leoedd parcio sydd yn Nyffryn Ogwen ac mae lleoedd yn dueddol o lewni’n gyflym, yn enwedig yn ystod y tymhorau prysur. Mae maes parcio fechan sydd yn cael ei rheoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol gerllaw Canolfan Ogwen.

Maes Parcio Canolfan Ogwen
Parcio drwy’r dydd (Yn dod i ben am hanner nos): £6.00
4 awr: £3.00
Lleoedd bathodyn glas/anabl: 2 le

Pwyntiau gwefru EV ar gael

Talu drwy ‘Chip and pin’ neu’n ddigyswllt yn unig. Ni dderbynir arian parod.

Gweld ar Google Maps

Dyffryn rhewlifol Cwm Idwal yw un o leoliadau mwyaf dramatig Eryri. Mae modd cyrraedd cadwyn fynyddoedd Y Glyderau o Ddyfryn Ogwen. Mae Canolfan Ogwen yn cynnig diodydd a byrbrydau yn ogystal â mynediad i doiledau. Mae gan Llyn Ogwen, sy'n gorwedd yng nghanol y dyffryn, nifer o gysylltiadau mytholegol (© Hawlfraint y Goron)
Dyffryn rhewlifol Cwm Idwal yw un o leoliadau mwyaf dramatig Eryri.
Mae modd cyrraedd cadwyn fynyddoedd Y Glyderau o Ddyfryn Ogwen.
Mae Canolfan Ogwen yn cynnig diodydd a byrbrydau yn ogystal â mynediad i doiledau.
Mae gan Llyn Ogwen, sy'n gorwedd yng nghanol y dyffryn, nifer o gysylltiadau mytholegol (© Hawlfraint y Goron)

Canolfan Cwm Idwal

Yn nghanol y dyffryn, mae Canolfan Cwm Idwal sydd â nifer o gyfleusterau defnyddiol megis:

  • Arddangosfa rhyngweithiol

  • Toiledau cyhoeddus a chawodydd sydd ar agor 24 awr y dydd
  • Bar byrbrydau Ogwen sy’n gweini diodydd, byrbrydau, pasteiod ac amrywiaeth o gacenna

Mae’r ganolfan hefyd yn fan gweithio i Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal yn ogystal â wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Bwthyn Ogwen

Mae Bwthyn Ogwen wedi bod yn le cyfarwydd i ddringwyr, cerddwyr ac ymwelwyr ers blynyddoedd lawer. Prynodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr eiddo yn ôl yn 2014 ac mae wardeniaid y Glyderau a’r Carneddau wedi’u lleoli yma.

Mae gan yr Outward Bound Trust ganolfan yma hefyd y maent yn ei defnyddio fel lleoliad gwych ar gyfer cyrsiau dysgu awyr agored heriol ac anturus i blant ac oedolion ifanc.

Llwybrau a Theithiau
Cerdded Cwm Idwal
Dilynwch y daith syfrdanol o amgylch Cwm Idwal.
Daeareg Eithriadol
Mae Dyffryn Ogwen yn gartref i hanes gyfoethog o ddaeareg syfrdanol.
Daeareg Eryri