Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Mae Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri wedi’i lleoli yn y plasdy gwledig arbennig hwn a fu am flynyddoedd maith yn gartref Cymreig i’r teulu Oakeley, perchnogion chwareli a thiroedd o fri yn yr ardal.

Hwy oedd disgynyddion y teuluoedd Evans a Griffith a ddewisodd y llecyn prydferth hwn yn gartref iddynt, ac a gasglodd stad helaeth yn yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif.

Rydym ni heddiw yn mwynhau eu hetifeddiaeth hwy, gyda’r gerddi a driniwyd mor ofalus, a’r grisiau a’r llwybrau a luniwyd mor gain, lle gellir gweld coed a llwyni prin yn britho’r stad o 100 acer.

Cyn agor fel Canolfan APCE roedd yn gartref i rhai o deuluoedd cyfoethocaf Gogledd Cymru.

Darganfyddwch hanes anhygoel Teulu’r Oakeley a’u dylanwad yn y rhan arbennig yma o’r byd.

G16: Stâd Tan y Bwlch o’r dechrau…
Yn ystod y G16, bu Ieuan ap Iorwerth ap Adda a’i ddisgynyddion yn casglu eiddo a thir yn ardal Maentwrog a Blaenau Ffestinog gan arwain yn y pen draw at greu stâd Tan y Bwlch.
G17: Yr ystâd yn ehangu trwy briodasau ac ewyllysiau
Ceir y cyfeiriad cyntaf at stâd Tan y Bwlch yn ewyllys Robert Evans yn 1602. Roedd mab Robert Evans, sef Robert yn briod â Lowri Prys, sef wyres Edmwnd Prys, Tyddyn Du, rheithor Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd. Roedd Edmwnd Prys yn un o’r rhai â gydweithiodd gyda’r Esgob William Morgan yn y gwaith o gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.
G18: y Teulu Oakeley yn cyrraedd Plas Tan y Bwlch
Priododd Catherine, aeres y teulu Evans gyda Robert Griffith o Fach y Saint ger Cricieth, gan ychwanegu at y stâd. Penderfynodd eu hŵyr hwy, Robert Griffith, ailadeiladu ac ymestyn y tŷ tua 1748. Ei fab ef, Evan Griffith oedd gwryw diwethaf y teulu Griffith. Roedd llinell wrywaidd y teuluoedd Evans a Griffith wedi dod i ben yn eu tro, a phob tro, priododd yr aeresau â phres a thir newydd.
G19: Llanw a thrai cyfoeth y teulu Oakeley
Cafodd William Griffith Oakeley, mab William Oakeley, gyfnod hynod gyffrous. Llwyddodd i drawsnewid Chwarel yr Oakeley i fod yn chwarel danddaearol mwyaf y byd, gan gyflogi mwy na 1600 o ddynion.
G20: On'd oedden nhw’n ddyddiau da...
Roedd dechrau’r ganrif yn gyfnod blin wrth i William Edward Oakeley wynebu mwy o amseroedd anodd. Ond, erbyn iddo farw, roedd wedi llwyddo i godi digon o arian i gadw rhan o’r stâd a etifeddwyd gan ei ddau blentyn. Fe ddaeth llinell yr Oakeley i ben pan fu farw ei ferch Mary yn 96 oed ym 1961.