Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.
Un o deithiau trên mwyaf unigryw Eryri

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn gamp beirianyddol ryfeddol sydd wedi bod yn cludo twristiaid i gopa’r Wyddfa ers 1896.

Mae’r daith hynod hon yn golygu bod un o gopaon mwyaf eiconig Cymru yn hygyrch i lawer.

Y daith

Mae’r rheilffordd yn teithio am 4.7 milltir o Lanberis, heibio sawl gorsaf cyn cyrraedd copa’r Wyddfa—3,560 troedfedd uwch lefel y môr. Pen taith y rheilffordd yw Hafod Eryri, y ganolfan ymwelwyr uchaf a mwyaf syfrdanol yng Nghymru.

Hafod Eryri

Oriau agor a phrisiau

Nid yw Rheilffordd yr Wyddfa yn cael ei rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd agor, teithiau a phrisiau, ewch i wefan Rheilffordd yr Wyddfa.

Gwefan Rheilffordd Yr Wyddfa