Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

All arwyr y Mabinogion ysbrydoli arwyr heddiw?

Mae’r Wyddfa’n enwog nid yn unig am ei harddwch syfrdanol ond am y chwedlau a llên gwerin sy’n diffinio’i hanes a’i hud.

Mae hanesion Rhita, y cawr dychrynllyd a feiddiodd herio’r Brenin Arthur, bron a bod yn rhan annatod o garn eiconig Eryri yn ogystal â lleoliadau megis Bwlch y Saethau—y man lle glwyfwyd Arthur yn angheuol mewn brwydr waedlyd.

Fodd bynnag, yn llechu ymysg yr hanesion chwedlonol hyn mae realiti sy’n codi cryn bryder. Nid chwedl neu lên gwerin yw’r broblem sbwriel sy’n heintio llethrau mynydd prysuraf Cymru. Mae gwastraff plastig bellach yn bygwth dyfodol cynaliadwy’r Wyddfa.

Fel rhan o ymgyrch Awdurdod y Parc Cenedlaethol i wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cynta’r byd, daw arwyr y gorffennol yn fyw mewn cyfres o luniau gafaelgar i ennyn ysbrydoliaeth arwyr heddiw.

Mae 85% o'r rhai sy'n dringo'r Wyddfa yn cymryd cyfrifoldeb dros eu sbwriel

King Athur standing high a rock with Yr Wyddfa in the background.

Arthur, y Brenin dewr ac eofn

Roedd Arthur yn Frenin dewr ac eofn sydd â chysylltiad cryf â llên gwerin Cymru ac Eryri. Ei orchest enwocaf oedd trechu Rhita Gawr, y cawr a Brenin brawychus oedd yn dyheu am reoli holl diroedd Prydain.

Cymaint yw cysylltiad Arthur ag Eryri, y honnir mai ar lethrau’r Wyddfa y lladdwyd. Ar ôl cael ei glwyfo’n farwol mewn brwydr, cludwyd y Brenin i lannau Llyn Llydaw lle’r oedd cwch â thair morwyn yn disgwyl amdano. Ac fe aethant ag ef drwy’r niwl i wlad chwedlonol Afallon.

Brwydrodd Arthur yn ddewr i amddiffyn Yr Wyddfa. Gadewch inni gael ein hysbrydoli gan ei hanes a pharhau i frwydro i ddiogelu’r llethrau lle bu’n crwydro gynt.

Gall wastraff organig megis crwyn banana gymryd misoedd i fioddiraddio'n llawn mewn mannau ucheldirol fel copa'r Wyddfa.

Blodeuwedd poses on a boulder by the side of a stream.

Blodeuwedd, cynrychioliad chwedlonol o natur a harddwch

Cymeriad o bedwaredd cainc y Mabinogi yw Blodeuwedd. Fe’i chonsuriwyd o flodau’r dderwen, y banadl a’r erwain gan ddewiniaid chwedlonol.

Mae Blodeuwedd yn gynrychioliad arallfydol o natur a harddwch ac mae ei stori yn ein hatgoffa o harddwch naturiol Eryri. Yn aml, gall tirwedd y Parc Cenedlaethol ennyn ymdeimlad arallfydol o harddwch—fel petai’r dirwedd wedi’i chonsurio gan yr union ddewiniaid a ddaeth a Blodeuwedd i fod.

Mae tirwedd hardd Eryri yn gartref i gyfoeth o harddwch naturiol, ond mae hefyd yn fregus. Rhaid gweithredu i warchod Eryri am genedlaethau i ddod.

Mae defnyddio cynhwysyddion plastig ail-ddefnyddiadwy yn ffordd gwych o warchod tirwedd Eryri.

Branwen poses and looks directly into the camera on Harlech Beach.

Branwen, y Dywysoges dan ormes

Mae Branwen yn Dywysoges sy’n chwaer i’r cawr a’r Brenin, Bendigeidfran. Mae hi’n ymddangos yn ail gainc Y Mabinogi lle glywn hanes ei phriodas â Matholwch, Brenin Iwerddon—priodas a ddaeth yn un gormesol.

Pan glywai Bendigeidfran am gamdriniaeth Branwen, mae’n hwylio draw yn syth i Iwerddon i achub ei chwaer o ormes Matholwch.

Mae hanes Branwen yn un sy’n ein atgoffa o bwysigrwydd gwarchod yr hyn sy’n bwysig i ni. Beth am inni fod yn gweidwaid ar dirwedd Eryri ac ymateb i’r heriau mor gyflym a Bendigeidfran?

Eitemau bychain sy'n megis cadachau gwlyb a bonion sigaréts yw'r eitemau sy'n gallu achosi'r difrod mwyaf i dirwedd Eryri.

The mythical character, Pryderi, poses on the shores of Llyn Tegid.

Pryderi a’r hud a lledrith

Mae’r Mabinogi’n llawn digwyddiadau o hud a lledrith ac, boed yn anfwriadol a’i peidio, mae Pryderi’n aml yn cael ei weld yng nghanol y digwyddiadau hyn. Pryderi hefyd yw’r unig gymeriad i ymddangos ym mhob un o geinciau’r Mabinogi.

Yn yr un modd ag y mae taith Pryderi yn datblygu yng nghanol anturiaethau arallfydol, felly hefyd y dylem gydnabod yr naws hudol ac arallfydol tirwedd Eryri. Gadewch i ni ddiogelu swyn dirgel y Parc Cenedlaethol am genedlaethau i ddod.

Cyfranogwyr yr Ymgyrch

Hoffai Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddiolch i gyfranogwyr yr ymgyrch am eu gwaith gwirfoddol. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am sut i wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ymwelwch â’r dudalen Wirfoddoli.

Gwirfoddoli

Arthur
Danny Grainger
Instagram: @dannyexplores

Blodeuwedd
Stacey Taylor
Instagram: @wales_on_my_doorstep

Branwen
Hayley Roberts
Instagram: @hayley_merch_y_mynydd

Pryderi
Tom Ryan
Instagram: @alwaysanovice