Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Ydych chi'n fusnes lletygarwch sy'n gweithredu yn ardal Yr Wyddfa?

Ydych chi’n caru’r ardal rydych chi’n gweithio ynddi? Hoffech chi chwarae rhan i ddiogelu ei dyfodol cynaliadwy a chyfrannu at y nod o wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cyntaf y byd?

All eich busnes chi droi syniad yn realiti?

Yr Wyddfa yw mynydd prysuraf Cymru. Mae cannoedd o filoedd yn cerdded i’r copa eiconig bob blwyddyn. Mae sbwriel yn dod yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol cynaliadwy’r mynydd ac i fynd i’r afael â’r sefyllfa, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn arwain ymgyrch i wneud Yr Wyddfa yn fynydd di-blastig cyntaf y byd.

Gall eich busnes gyfrannu at droi’r syniad hwnnw’n realiti. Mae’r Awdurdod yn gwahodd busnesau yn Eryri i ymuno â’r daith gynaliadwyedd a dod yn fusnes achrededig Yr Wyddfa Di-blastig. Bydd y cynllun hygyrch ond uchelgeisiol hwn yn helpu eich busnes i lwyddo ar y daith di-blastig.

Bronze plastic-free Yr Wyddfa emblem.
Achrediad 'Aur' Copa

Caiff eich busnes ei achredu ag achrediad Copa ‘Aur’ pan fo 90% o’ch masnachu dydd i ddydd yn ddi-blastig.

Silver plastic-free Yr Wyddfa emblem.
Achrediad Glaslyn 'Arian'

Caiff eich busnes ei achredu ag achrediad Glaslyn ‘Arian’ pan fo 60% o’ch masnachu dydd i ddydd yn ddi-blastig.

Bronze plastic-free Yr Wyddfa emblem.
Achrediad Llydaw 'Efydd'

Caiff eich busnes ei achredu ag achrediad Llydaw ‘Efydd’ pan fo 40% o’ch masnachu dydd i ddydd yn ddi-blastig.

Mae llawer o fusnesau o amgylch ardal Yr Wyddfa eisoes wedi’u hachredu ac yn gwneud newidiadau i’w gweithgarwch i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy’r ardal.

tent
Gwersyllfannau

Graig Wen, Dolgellau

Gwestai, Gwely a Brecwast

Gwesty Plas Coch, Llanberis
Crafnant
Morlyn, Llandanwg
Plas Hafod, Nebo
Lodge Dinorwig, Dinorwig
Gwesty Royal Victoria, Llanberis
Gwesty Castell Elen, Dolwyddelan
Hostel Gallt Y Glyn, Llanberis
The Rocks, Capel Curig
Tŷ Mawr G&B ac Ystafell De, Rhyd Ddu
Snowdonia Holiday Lodges, Rhyd Ddu
Gwesty The Lake View, Llanberis
Plas Tan Y Blwch, Maentwrog
Bythynnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Visitors at Hafod Eryri
Bwytai, Caffis a siopau cludfwyd

Rum Doodles, Llanberis
Becws Melyn, Llanberis
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Glaslyn Pizzeria, Beddgelert
Gallt y Glyn Pizzeria, Llanberis
Caffi Gwynant, Nant Gwynant
Gelli, Penrhydeudraeth
Caffi Gorffwysfa, Pen y Pass
Hafod Eryri- Rheilffordd Yr Wyddfa, Llanberis

Barn busnesau wedi eu achredu

Mae 25 o fusnesau bellach wedi eu achredu gyda Gwobr Di-Blastig, Dyma beth sydd gan rai ohonyn nhw i’w ddweud am y cynllun.

“Yn ein gwesty gwely a brecwast ar odre’r Wyddfa, rydyn ni’n credu yn harddwch a chadwraeth y byd naturiol o’n cwmpas. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i leihau ein defnydd o blastigau untro. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n gallu amddiffyn yr amgylchedd syfrdanol y mae ein gwesteion yn dod i’w brofi a helpu i sicrhau bod ei harddwch yn parhau i ymwelwyr â’r ardal yn y dyfodol.

Bob tro rydyn ni wedi gwneud rhywbeth i gael gwared ar blastigau untro, mae’n teimlo ein bod ni wedi gwella ansawdd yr hyn rydyn ni’n ei wneud,”

—Fiona a Rob, Plas Coch, Llanberis
Achrediad Copa ‘Aur’

https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/logo-plas-coch.jpg

“Mae Glaslyn Pizzeria a Gelateria yn falch o fod wedi partneru gyda Yr Wyddfa Ddi-blastig wrth i ni rannu amcanion cyffredin o hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy a diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i leihau ein gwastraff plastig a dod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau ein defnydd o plastigion untro.

Rydym wedi cymryd sawl cam i leihau ein heffaith amgylcheddol megis cael gwared ar blastigion untro a polystyrene, trosi i gwmni rheoli gwastraff ‘Zero to Landfill’ a gwerthu diodydd mewn caniau yn hytrach na photeli plastig untro. Rydym yn bwriadu datblygu ystod o gynwysyddion tecawê y gellir eu hailddefnyddio i leihau gwastraff ymhellach ac ar ôl cyflawni ein Statws Arian drwy weithio gydag Alec ym Mharc Cenedlaethol Eryri i gyrraedd y lefel Aur (Copa).”

—Bonnie Rowley, Glaslyn Pizzeria, Beddgelert
Achrediad Glaslyn ‘Arian’

https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/logo-glaslyn.jpg

“Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o’r cynllun hwn ac i ddechrau ar y llwybr di-blastig gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Ein nod yw chwarae ein rhan drwy godi ymwybyddiaeth o broblem plastigion a sbwriel cyffredinol, a lleihau ein defnydd o blastigion untro lle bo hynny’n ymarferol. Roedd yr archwiliad yn hawdd i’w gynnal a rhoddodd gynllun gweithredu clir i ni o sut y gallem ddod yn fusnes mwy cynaliadwy!”

—Vince Hughes, Rheilffordd Yr Wyddfa, Llanberis
Yn anelu at achrediad Llydaw ‘Efydd’

https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/logo-mountain-railway.jpg

“Rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn leihau ein defnydd o becynnu plastig yn y gwesty a’n hôl troed yn gyffredinol ers peth amser, felly rydym wedi bod yn gweithio gyda busnesau lleol fel Cole & Co i gyrraedd y nod hwnnw. Rydym felly yn falch o fod yn gweithio gyda’r Awdurdod i hybu ein huchelgeisiau o fod yn ddarparwr cynaliadwy, tra’n cael effaith uniongyrchol ar y rhan hardd hon o’r byd! Mae ein hymdrechion eisoes wedi’u cydnabod gydag achrediad Glaslyn (Arian) gan y Parc Cenedlaethol ac edrychwn ymlaen i symud ymhellach ar hyd y llwybr di-blastig erbyn y tro nesaf y byddwn yn cael ein harchwilio!”

—Ann Owen, Gwesty Royal Victoria, Llanberis
Achrediad Glaslyn ‘Arian’

https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/logo-royal-vicotria.jpg

Diddordeb?

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich busnes ddod yn fusnes achrededig Yr Wyddfa Di-blastig, cysylltwch â Swyddog Yr Wyddfa Di-blastig, Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Alec Young
Swyddog Yr Wyddfa Di-blastig, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
alec.young@eryri.llyw.cymru

Cwestiynau cyffredin am y cynllun

Nid oes ffî i ymuno â Chynllun Busnes Yr Wyddfa Di-blastig.

Bydd gofyn i chi fynd drwy gyfres o gwestiynau gyda Swyddog Yr Wyddfa Di-blastig Awdurdod y Parc Cenedlaethol a byddwch yn cael eich sgorio ar ba mor ddi-blastig yw eich busnes ar hyn o bryd a pha mor ddi-blastig yr hoffech i’ch busnes fod. Ar ôl eich archwiliad byddwch yn cael cynllun gweithredu i’ch helpu i gyrraedd eich sgôr targed.

Mae’r archwiliad cychwynnol yn cymryd oddeutu 30–45 munud i’w gwblhau yn ddibynnol ar faint eich busnes.

Mae’r cynllun yn un hygyrch gyda dim ond sgôr o 40% yn ofynnol i ddod yn fusnes lefel Llydaw (Efydd). Mae’n dod yn fwyfwy heriol gyda sgôr o 90% yn ofynnol i ddod yn fusnes lefel Copa (Aur).

Yn gyntaf oll, bydd eich busnes yn cael effaith uniongyrchol ar ddyfodol cynaliadwy Yr Wyddfa ac yn cyfrannu at economi ymwelwyr mwy cynaliadwy yn Eryri.

Am gymryd rhan ac ennill sgôr o 40% +, byddwch yn derbyn sticer ffenestr, tystysgrif, ac asedau digidol i’w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd eich cyfranogiad hefyd yn cael ei hyrwyddo gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gwefan ac unrhyw sylw yn y wasg a all godi.

Bydd eich archwiliad yn cael ei gynnal mewn person gan Swyddog Yr Wyddfa Di-blastig. Byddwch yn derbyn cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ar leihau’r defnydd o blastig untro a rheoli gwastraff yn well yn eich busnes. Y Swyddog fydd eich pwynt cyswllt canolog a bydd yn cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau wrth i chi gychwyn ar y llwybr di-blastig.

Nid oes angen unrhyw fuddsoddiad ychwanegol ar lawer o’r pwyntiau gweithredu yn y cynllun busnes. Gellir sgorio pwyntiau yn y cynllun trwy newid arferion busnes ac ymgysylltu â chwsmeriaid ar negeseuon allweddol Yr Wyddfa Di-blastig.

We will aim to audit businesses twice a year, with the aim of continually appraising and celebrating businesses’ efforts and progress on the Plastic Free Path.

Bydd yr Awdurdod yn anleu i archwilio’ch busnes ddwywaith i flwyddyn gyda’r bwriad o ddathlu llwyddiant ac ymdrech eich busnes i barhau ar hyd y llwybr di-blastig.