Mae dringo’r Wyddfa yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf yn gofyn am ystyriaeth gofalus a pharatoadau trylwyr. Gall y mynydd fod yn amgylchedd heriol yn ystod y tymhorau hyn, a gall amodau newid yn sydyn.
Cyfle tendr: Asesu ac Adrodd ar Amodau Dan Draed (Gaeaf 2025/26).
Er mwyn helpu cerddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus cyn mentro allan ar y mynydd yn ystod y gaeaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dymuno penodi contractwr profiadol a chymwys i gyflawni’r briff o asesu ac adrodd ar amodau tir gaeafol ar Yr Wyddfa. Mae’r ffenestr ymgeisio bellach ar agor.
Dyddiad cau: 12:00yp, Dydd Gwener 17 Hydref 2025.
Beth yw Adroddiadau Amodau Dan Draed Yr Wyddfa?
Mae Adroddiadau Amodau Dan Draed Yr Wyddfa yn adrodd ar y tywydd a chyflwr y tir dan draed ar Yr Wyddfa. Mae’r adroddiadau’n hanfodol i gerddwyr sy’n ystyried dringo’r Wyddfa yn ystod misoedd hwyrach yr hydref a thymor y gaeaf.
Sut i ddefnyddio’r adroddiadau
Dylai’r adroddiadau fod yn rhan hanfodol o’ch paratoadau i fentro ar y mynydd yn ystod misoedd hwyrach yr hydref a thymor y gaeaf. Gall y tywydd a’r amodau dan draed ar y mynydd fod yn hynod beryglus yn ystod y tymhorau hyn ac mae’r adroddiadau yn cynnig gwybodaeth manwl ar beth yn union i’w ddisgwyl a sut i gynllunio o amgylch y disgwyliadau hynny.
Pryd mae adroddiadau’n cael eu cyhoeddi?
Mae adroddiadau yn cael eu cyhoeddi ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Gwener.
Lle i weld yr ardoddiadau
Mae Adroddiadau Amodau Dan Draed Yr Wyddfa bellach yn cael ei cyhoeddi ar wefan Yr Wyddfa Fyw.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r linciau isod yn cynnig rhagor o wybodaeth ar ddiogelwch mynydd.