Mi fydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad ar y 24ain o Ebrill yng Ngwesty’r Royal Victoria yn Llanberis er mwyn trafod y posibilrwydd o wneud Yr Wyddfa’n fynydd ‘ddi-blastig’ cynta’r byd gyda busnesau lleol.
Mae priosect ‘Yr Wyddfa Ddi-blastig’ yn fenter a lansiwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn ymateb i bryder cynyddol am effeithiau gwastraff plastig ar yr amgylchedd. Mae’r priosect yn anelu i godi ymwybyddiaeth am effeithiau niweidiol llygredd plastig ar harddwch naturiol yn ardal Yr Wyddfa a’r angen am ymarferion cynaladwy.
Nôd y digwyddiad yw i’r Awdurdod ddechrau ar y ‘Llwybr Ddi-blastig’ gyda busnesau ym mharth Yr Wyddfa a datblygu fframwaith hygyrch ar gyfer Cynllun Gwobrwyo Ddi-blastig.
Mi fydd yn manylu ar sut i ymgysylltu gyda ymwelwyr am sbwriel, ffyrdd o leihau’r defnydd o blastig untro a chanfod ffyrdd o ailgylchu ac ailddefnyddio.
Dywedodd Rob a Fiona Nicholson o Plas Coch, Llanberis:
“Yn ein gwesty ar droed Yr Wyddfa, rydym yn credu’n gryf mewn gwarchod yr amgylchedd o’n cwmpas. Dyna pam da ni wedi ymrwymo i leihau ein defnydd o blastig untro. Trwy wneud hynny gallwn gyfrannu at warchod y tirweddau anhygoel yma mae ein gwesteion yn dod i’w profi a chynorthwyo at eu diogelu ar gyfer ymwelwyr y dyfodol.”
Mi fydd siaradwyr gwadd o ar draws rhanbarth Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn ogystal a stondinau masnach yn arddangos atebion posib i brosiect Yr Wyddfa Ddi-blastig.
Mi fydd y digwyddiad yn gyfle i drafodaethau agored a rhannu syniadau cyn i Emyr Williams, Prif Weithredwr yr Awdurdod ddod a’r prynhawn i derfyn.
Dywedodd Alec Young Swyddog Prosiect ‘Yr Wyddfa Ddi-blastig’:
“Rydym yn falch o gynnal digwyddiad ‘Yr Wyddfa Ddi-Blastig’ a chydweithio gyda busnesau yn ardal Yr Wyddfa i warchod y mynydd a’r bywyd gwyllt. Rydym yn gobeithio bydd y digwyddiad yma yn ysbrydoli perchnogion busnes lleol yn ogystal a dechrau sgyrsiau am ffyrdd allwn leihau ein defnydd o blastigion untro, trwy warchod ein elw a diogelu harddwch naturiol Eryri.”
Trwy godi ymwybyddiaeth am leihau gwastraff plastig ar Yr Wyddfa rydym hefyd yn amlygu problemau sbwriel ehangach yn y Parc Cenedlaethol. Trwy ddynodi ardal Yr Wyddfa fel ‘Parth Ddi-Blastig’, rydym yn cymryd mantais o negeseuo ‘Ddi-blastig’ er mwyn codi ymwybyddiaeth am o’r niwed gall mathau eraill o sbwriel gael ar y mynydd ac ar ein tirweddau eraill hefyd.
DIWEDD.
Nodyn i Olygyddion
- Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu Gwasanaethau Corfforaethol ar 01766 772253 / 07900267506 neu ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru