Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Yr Wyddfa yw copa uchaf a phrysuraf Cymru ac mae sawl chwedl yn gysylltiedig a’r mynydd eiconig hwn, gan gynnwys ei enw.

Graffeg gyda'r geiriau 'Gwyddfa Rhita' mewn gwyn ar gefndir glas.

Ystyr ‘Yr Wyddfa’

Mae enwau lleoedd Cymraeg yn aml yn adlewyrchu chwedloniaeth neu lên gwerin sy’n gysylltiedig ag ardal, ac nid yw’r Wyddfa’n ddim gwahanol.

Yn ôl y chwedl, Yr Wyddfa yw man gorffwys olaf Rhita Gawr. Cawr brawychus oedd Rhita a wisgai glogyn o farfau dynion. Lladdwyd Rhita mewn brwydr waedlyd yn erbyn Brenin Arthur, a dorrodd pen y cawr i ffwrdd. Yn ôl y sôn, y garnedd ar gopa’r Wyddfa yw man gorffwys pen y cawr. Mae’n debyg y daw enw’r Wyddfa o’r gair ‘gwyddfa’ sy’n air arall am ‘fedd’ neu ‘claddfa’.

Gwarchod enwau lleoedd Cymraeg

Mae’r Gymraeg yn un o’r rhinweddau niferus sy’n gwneud Eryri yn arbennig ac mae’n iaith dydd i ddydd mewn llawer o gymunedau ar draws y Parc Cenedlaethol.

Mae gan enwau lleoedd Cymraeg yn aml ystyron diwylliannol a hanesyddol arwyddocaol. Maent yn adrodd straeon am Eryri ac yn cysylltu’r presennol â’r bobl oedd yn byw yn yr ardal ganrifoedd yn ôl.

Yn 2022, penderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddefnyddio ‘Yr Wyddfa’ yn unig wrth gyfeirio at gopa uchaf Cymru—gan warchod yr enw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Darganfod Enwau Lleoedd Eryri
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri