Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Logo Yr Wyddfa ddi-blastig

Wrth ddefnyddio’r tap hwn i ail-lenwi eich potel ddŵr, rydych chi wedi osgoi defnyddio plastigion untro di-angen a sicrhau fod Yr Wyddfa gam yn agosach at fod yn fynydd di-blastig.

Cofiwch:

  • Nid oes tap ail-lenwi ar y copa! Sicrhewch fod gennych chi o leiaf 1.5 litr o ddŵr i bob person cyn i chi gychwyn eich taith i’r copa.
  • Gall botel blastig gymryd bron i 450 mlynedd i fioddiraddio.
  • Mae 5% o gynnwys pridd y copa’n feicro-blastigau’n barod. Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i warchod y tirwedd bregus hwn rhag difrod pellach.
  • Mae pob un o’n tapiau dŵr yn cynnig dŵr Cymreig ffres sy’n saff i’w yfed.
  • Mae dŵr tap 2000 gwaith yn rhatach na dŵr wedi ei botelu.
  • Wrth feddwl ddwywaith am ddefnyddio plastig untro, rydych chi wedi atal potel blastig arall rhag mynd i wast neu achosi niwed i’r mynyddoedd neu foroedd.

Three hikers
Pacio ar gyfer eich antur di-blastig

Beth i’w bacio er mwyn chwarae eich rhan chi yn yr ymgyrch i wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.

Pacio’n ddi-blastig

Drone photo of the Llanberis Path leading to the summit of Yr Wyddfa ond a bright spring day.
Yr Wyddfa Ddi-blastig

Darganfod mwy am ymgyrch Awdurdod y Parc Cenedlaethol i wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.

Yr Wyddfa Ddi-blastig

Bronze plastic-free Yr Wyddfa emblem.
Busnesau Di-blastig

Ydych chi’n fusnes sy’n gweithredu yn ardal Yr Wyddfa? Gall eich busnes chi gyfrannu at wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.

Busnesau Di-blastig