Wrth ddefnyddio’r tap hwn i ail-lenwi eich potel ddŵr, rydych chi wedi osgoi defnyddio plastigion untro di-angen a sicrhau fod Yr Wyddfa gam yn agosach at fod yn fynydd di-blastig.
Cofiwch:
- Nid oes tap ail-lenwi ar y copa! Sicrhewch fod gennych chi o leiaf 1.5 litr o ddŵr i bob person cyn i chi gychwyn eich taith i’r copa.
- Gall botel blastig gymryd bron i 450 mlynedd i fioddiraddio.
- Mae 5% o gynnwys pridd y copa’n feicro-blastigau’n barod. Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i warchod y tirwedd bregus hwn rhag difrod pellach.
- Mae pob un o’n tapiau dŵr yn cynnig dŵr Cymreig ffres sy’n saff i’w yfed.
- Mae dŵr tap 2000 gwaith yn rhatach na dŵr wedi ei botelu.
- Wrth feddwl ddwywaith am ddefnyddio plastig untro, rydych chi wedi atal potel blastig arall rhag mynd i wast neu achosi niwed i’r mynyddoedd neu foroedd.
![Three hikers](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/NVW-C155-1819-0007.jpg)
Pacio ar gyfer eich antur di-blastig
Beth i’w bacio er mwyn chwarae eich rhan chi yn yr ymgyrch i wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.
![Drone photo of the Llanberis Path leading to the summit of Yr Wyddfa ond a bright spring day.](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/YrWyddfa-LlynLlydaw-Glaslyn-15.jpg)
Yr Wyddfa Ddi-blastig
Darganfod mwy am ymgyrch Awdurdod y Parc Cenedlaethol i wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.
![Bronze plastic-free Yr Wyddfa emblem.](https://eryri.llyw.cymru/wp-content/uploads/2023/06/3.jpg)
Busnesau Di-blastig
Ydych chi’n fusnes sy’n gweithredu yn ardal Yr Wyddfa? Gall eich busnes chi gyfrannu at wneud Yr Wyddfa’n fynydd di-blastig cynta’r byd.