Mae tirwedd Eryri yn gefnlen i ddiwylliant, iaith a chelfyddyd arbennig sydd yr un mor werthfawr â’r copaon aruthrol a’r adfeilion hanesyddol hudolus.
Lle o falchder ac o berthyn sy’n fwrlwm o ddiwylliant Cymreig
Mae tirwedd Eryri wedi bod yn gefnlen i gelfyddyd a diwylliant Cymreig ers canrifoedd.
Ysbrydoli Celfyddyd
Mae tirwedd syfrdanol Eryri wedi ysbrydoli celfyddyd o bob math ers cyn cof. Does dim rhyfedd bod artistiaid o bob cwr o’r byd yn mynd ati i bortreadu ehangder tirwedd Eryri ar gynfas, mewn cân ac mewn barddoniaeth.
Darganfod Celfyddyd
Cadarnle i'r Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn ganolog i ddiwylliant unigryw a bywiog Eryri ac i’w chlywed yn naturiol yn y cymunedau. Mae hi’n iaith sy’n rhan o hunaniaeth yr ardal yn ogystal â hunaniaeth y bobl.
Yr Iaith Gymraeg yn Eryri
Diwylliant Fywiog ac Unigryw
Mae cymunedau bychain Eryri yn gartrefi i ddiwylliant byrlymus o draddodiadau, celfyddyd a chymdeithasau Cymreig. Yma, mae iaith a diwylliant yn plethu i greu hunaniaeth fywiog ac unigryw
Gwilym Bowen Rhys: Llinell Gul Eryri
Cymunedau Eryri
Mae yna deimlad cryf o le ac o berthyn i le ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cymunedau sydd ar hyd a lled Eryri yn gymunedau Cymreig, agos atoch chi, sydd â balchder yn eu hiaith, eu diwylliant a’r ardal y maen nhw’n ei alw’n gartref.
Darganfod Cymunedau Eryri
Pobol Eryri
Mae pobol Eryri wedi gwneud gwahaniaeth cymdeithasol, crefyddol a diwylliannol ar draws y byd.
Darganfod Pobol Eryri