Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Daearegydd a Biolegydd

Ganwyd Charles Robert Darwin i deulu adnabyddus yn yr Amwythig yn 1809. Roedd ei daid ar ochr ei dad, Erasmus Darwin yn un o ddeallusion mwyaf blaenllaw y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’i daid ar ochr ei fam oedd Josiah Wedgwood, sefydlydd y cwmni serameg byd-enwog, ‘Wedgwood’.

Er mai fel biolegydd y caiff Darwin ei gofio yn bennaf, fel daearegydd yr oedd o fwyaf adnabyddus, hyd 1850.

Yn Haf 1831, ymunodd Charles Darwin ag Adam Sedgwick, ei Athro Daeareg yng Nghaergrawnt, ar daith ddaearegol flynyddol i fynyddoedd y Carneddau, ac yn ystod y daith hon, datblygodd sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd daearegol.

Ar Awst 29ain, dychwelodd Darwin i’r Amwythig, lle’r oedd llythyrau gan John Stevens Henslow a George Peacock yn ei wahodd i ymuno â mordaith HMS Beagle, ar daith arolwg i ynysoedd y Galapagos yn y Môr Tawel. Mi fu gwaith daearegol Darwin yng ngogledd Cymru, gyda Sedgwick yn allweddol i’w ymchwil ddaearegol ar fwrdd y Beagle, e.e. ar Quail Island. Yr ymweliad hwn i’r Galapagos ffurfiodd sail ymchwil a damcaniaeth Charles Darwin ar esblygiad.

Bu farw Darwin yn 1882 ac fe’i gladdwyd yn Abaty San Steffan.