Teithiwr ac awdur ‘Wild Wales’

Roedd George Borrow yn deithiwr ac awdur brwdfrydig oedd yn ysgrifennu llyfrau am ei ymweliadau amrywiol ar hyd Ewrop.

Fe gyhoeddodd ei lyfr ‘Wild Wales: Its People, Language and Scenery’ ym 1862. Mae’r llyfr yn adrodd profiadau personol Borrow o deithio o amgylch Cymru wedi iddo ymweld â Llangollen ym 1854.

Dysgodd Borrow fymryn o’r iaith Gymraeg tra’n teithio o amgylch y wlad ac mae’n nodi syndod y Cymry yn ei allu i fedru’r iaith wrth fynd o le i le.

Mae Borrow yn ysgrifennu am rhai o lefydd y Parc Cenedlaethol yn ei lyfr gan gynnwys Betws-y-Coed a’r Bala.