Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Arwres werin

Ganwyd Mari Jones i deulu tlawd yn Llanfihangel y Pennant.

Erbyn iddi gyrraedd ei 16 mlwydd oed yn 1800, roedd Mari wedi cynilo digon o arian i brynu copi o’r Beibl, a theithiodd yn droednoeth o Lanfihangel y Pennant i’r Bala er mwyn prynu copi gan y gweinidog Methodistaidd, Thomas Charles.

Dyna daith hir o oddeutu 18 milltir, tros fynyddoedd a chreigiau, ond fe’i siomwyd wedi iddi gyrraedd y Bala—doedd gan Thomas Charles ddim Beibl ar ôl i’w roi i Mari ac roedd Beibl yn beth prin iawn yr adeg honno.

Cafodd Mari ei Beibl yn y diwedd, ac ysbrydoliwyd Thomas Charles gan daith Mari, i sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.

Mae hanes Mari Jones yn fyd-enwog bellach, ac mae wedi’i gyfieithu i 40 o ieithoedd. Mae ei hanes hefyd i’w weld yn Eglwys Llanycil.