Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Bardd

‘Carneddi’ ym mhentref Nantmor ger Beddgelert oedd cartref y bardd Carneddog, ac yno y bu’n byw hyd 1945, gan ennill ei blwyf fel ffermwr defaid. Bu’n gyfrannwr brwd i gylchgronau megis ‘Cymru’ a phapurau newydd ‘Baner ac Amserau Cymru’ a’r ‘Herald Gymraeg’ yn ogystal â thrawstoriad o lyfrau – o gofiannau am feirdd megis ‘Jac Glan-y-Gors’ a ‘Glaslyn’ i flodeugerddi fel ‘Blodau’r Gynghanedd’ a ‘Cherddi Eryri’.

Bu Carneddog hefyd yn gasglwr llyfrau a llawysgrifau brwd, ac roedd yn lled-adnabyddus fel hanesydd lleol hefyd.

Roedd yn briod â Catherine, hithau’n ferch o Nantmor, a ganwyd iddynt dau fab.

Yn 1945, gadawodd Carneddog a’i wraig eu cartref yn Nantmor, er mwyn symud i Hinckley, Swydd Caerlŷr, at eu mab. Tynnodd y ffotograffydd Geoff Charles lun o’r pâr, yn edrych allan tros eu cartref cyn iddyn nhw symud ac mae’n debyg mai hwn yw’r enwocaf o’i ffotograffau.

Bu farw Carneddog yn Hinckley yn 1947, ac fe’i gladdwyd ym mynwent Beddgelert.