Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru

Ganwyd Ifan ab Owen Edwards yn Llanuwchllyn, yn fab i O.M.Edwards a’i wraig Ellen. Graddiodd mewn hanes o Goleg Lincoln, Rhydychen a dilynodd yrfa fel athro yn Nolgellau am gyfnod, cyn dod yn diwtor ac yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd Edwards yn awyddus iawn i barhau gydag etifeddiaeth ei dad, i hyrwyddo addysg Gymraeg ac ymwybyddiaeth o Gymreictod, a diolch i’w gymeriad blaengar a brwdfrydig, llwyddodd i wneud hynny.

Yn 1922, sefydlodd fudiad ieuenctid ‘Urdd Gobaith Cymru’ a dilynwyd hynny gyda sefydlu gwersyll yr Urdd yn Llanuwchllyn yn 1928, gwersylloedd parhaol yn Llangrannog a Glan Llyn yn 1932 a 1950, sefydlu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1929 a mabolgampau’r Urdd yn 1932.

Mae gan y mudiad dros 55,000 o aelodau erbyn hyn ac yn rhan fawr o ddiwylliant ifanc Cymreig yng Nghymru gan gynnwys Eisteddfodau lleol ac aelwydydd mewn cymunedau.

Yn 1939, agorwyd Ysgol Gymraeg Aberystwyth, diolch i waith Ifan ab Owen Edwards a chredai mai dyma oedd ei waith pwysicaf. Urddwyd ef yn farchog yn 1947, fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad sylweddol i’r genedl Gymreig a’r iaith Gymraeg.