Mae’r Gymraeg wedi goroesi sawl bygythiad ar hyd ei hoes ond yn parhau i fod yn famiaith i lawer o gymunedau Eryri heddiw.
Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop ac mae hi’n rhan annatod o fyw a bod nifer fawr o drigolion Eryri.
Cadarnle i’r Gymraeg
Mae Eryri’n gadarnle i’r Gymraeg.
Yma, mae’n iaith fyw, iaith bywyd pob dydd, iaith gwaith ac iaith addysg. Mae’n amlwg mewn enwau lleoedd lleol, bywyd gwyllt, yn ein hanes, ac yn rhan annatod o dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal.
Mae gwreiddiau’r Gymraeg yn ddwfn ym mhridd Eryri. Dyma iaith arweinwyr fel Llywelyn Fawr ac Owain Glyndŵr. Dyma iaith addoliad ac Eisteddfodau. Dyma’r iaith y mae llawer o’n grwpiau cerddoriaeth boblogaidd yn dewis canu ynddi, gan roi ardal y Parc Cenedlaethol ar y map.
A dyma’r iaith y mae’r genhedlaeth iau yn ei chofleidio gyda’r manteision o weithio, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg.
Hanes yr Iaith
Gelwir iaith y bobl gyntaf i fyw yn Ewrop yn Proto-Indo-Ewropeaidd, ac o’r iaith honno yr esblygodd y mwyafrif o’r ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg.
Yn ôl sawl hanesydd daeth yr iaith Geltaidd i Brydain tua 600 CC. O’r fersiwn yma o’r Gelteg y tarddodd Y Frythoneg, ac o’r Frythoneg, y daeth y Gymraeg.
Mae’r Gymraeg wedi gorfod cystadlu â’r Lladin, Ffrangeg-Normanaidd a’r Saesneg ar hyd yr oesoedd, ac wedi llwyddo i oroesi.
Bellach, mae gan y Gymraeg statws warchodedig drwy gyfrwng deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru.