Cefnlen i hanes a threftadaeth eang sy’n ymestyn dros ganrifoedd
Mae tirwedd Eryri yn gefnlen i hanes a threftadaeth eang sy’n ymestyn dros ganrifoedd. Un o rinweddau mwyaf arbennig y Parc Cenedlaethol yw’r ffaith fod dal modd gweld a phrofi’r hanes yma ar draws y dirwedd ac yn y cymunedau—o gestyll canoloesol rhagorol i olion diwydiant ac archeolegol.

Treftadaeth Ddiwydiannol
Mae olion diwydiannol i’w weld ar draws yr ardal y Parc Cenedlaethol gan gynnwys cloddfeydd amrywiol a chwareli llechi bychain a oedd yn weithredol cyn twf aruthrol y diwydiant llechi.
Darganfod Treftadaeth Ddiwydiannol







1/7

Cestyll a Safleoedd Hanesyddol
O gestyll cuddiedig tywysogion Cymreig i gaerau Rhufeinig, mae gan y Parc Cenedlaethol safleoedd hanesyddol sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
Darganfod Cestyll a Safleoedd Hanesyddol

Mytholeg a Llên Gwerin
Mae tirwedd Eryri yn gefnlen i restr gyfoethog o fytholeg a llên gwerin. O’r Mabinogi i’r hanesion sy’n cael eu hadlewyrchu yn enwau lleoedd.
Darganfod Mytholeg a Llên Gwerin

Archaeoleg
Mae trysorau archeolegol wedi eu dotio ar draws tirwedd Eryri. Gellir gweld caerau a ffyrdd Rhufeinig, carneddau a siambrau claddu yn ogystal ag olion cynhanesyddol o bob math.
Darganfod Archaeoleg

Treftadaeth Ddiwylliannol
O'i hiaith, ei thraddodiadau a'i chelf - mae gan Eryri dreftadaeth ddiwylliannol o bwysigrwydd cenedlaethol.
Treftadaeth Ddiwylliannol