Castell Cymreig eiconig ar gyrion y Parc Cenedlaethol
Safai Castell Dolbadarn ar graig uchel ar echwyn ffiniau Eryri. Mae golygfeydd trawiadol o Lyn Padarn a Bwlch Llanberis i’w weld o’i safle.
Er nad oes cofnod pendant, mae’n debyg mai Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), brenin Gwynedd rhwng 1195–1240, adeiladodd y castell tua diwedd y 12fed ganrif.
Mae’n bur debygol felly fod y castell yn gadarnle Cymreig ar gyfer gwarchod Bwlch Llanberis oedd yn lwybr mewndirol poblogaidd o Gaernarfon i Ddyffryn Conwy ar y pryd.
Cestyll Llywelyn
Mae’r castell yn un o gyfres o gestyll mynyddig y tybiwyd i Llywelyn ei hadeiladu ar draws Eryri gan gynnwys Castell Dolwyddelan, y Bere, Carndochan a Chricieth. Dyma gestyll a fu’n rhan o linach faith o dywysogion Cymreig am ganrifoedd.
Manteisio ar dirwedd Eryri
Byddai cestyll mynyddig fel Dolbadarn, ynghyd a’r brenhinoedd a thywysogion oedd yn eu hadeiladu, yn defnyddio tirwedd Eryri i’w mantais amddiffynnol. Roedd teyrnas hynafol Gwynedd yn cael ei hystyried fel cadarnle Cymreig am ganrifoedd oherwydd gallu’r tywysogion i ddefnyddio mynyddoedd, coedwigoedd ac ogofau Eryri fel arf milwrol yn erbyn eu gelynion.
Dolbadarn heddiw
Y tŵr crwn cadarn yw’r brif nodwedd a safai heddiw ac mae olion rhannau eraill o’r castell i’w gweld yn glir.
Ymweld â Chastell Dolbadarn
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chastell Dolbadarn ar wefan Cadw.