Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Un o gewri mwyaf adnabyddus mytholeg Gymreig

Mae llên gwerin a chwedloniaeth Cymru yn llawn hanesion am gewri. Nhw, yn ôl y chwedloniaeth sydd yn gyfrifol am sawl ffurfiad yn y tirwedd, meini hirion, llynnoedd a charneddau archeolegol.

Mae rhai o gewri chwedloniaeth Gymreig yn cynnwys Rhita Gawr, Hydaws, Igyn, Dylan, Idwal, Ifan Goch, Corwenna, Beli a Bran. Yn ddifyr iawn roedd cewri Cymru yn aml yn gwisgo ffedogau ac yn casglu barfau.

Ond un o’r cewri fwyaf adnabyddus yw Idris Gawr a roddodd ei enw i Gader Idris, mynydd godidog yn Nolgellau.

Idris–y cawr a’r seryddwr

Yn ôl y Trioedd, sef cyfres o straeon canoloesol, roedd Idris yn seryddwr ac ai i grib y mynydd uchaf ac enwocaf ym Meirion, ddaeth yn Cader Idris, i ddysgu tynged a damwain dyn.

Roedd o’n gawr mewn corffolaeth ac nid yn unig mewn gwybodaeth, ac fel unrhyw un arall gall carreg mewn esgid achosi cryn boendod.

Un tro, fe dynnodd dair carreg o’i esgid wrth eistedd ar bwys llyn ar droed Cader Idris. Taflodd un o’r cerrig tuag at gyfeiriad Trawsfynydd ac mae’r garreg honno’n cael ei hadnabod fel Llech Idris heddiw.

Sawl fersiwn o’r un hanes

Mae’n bwysig nodi bod fersiynau gwahanol i’w glywed o bob chwedl a llên gwerin yma yn Eryri, sydd yn dyst i’w hynafiaethrwydd. Mae pob fersiwn, wrth gwrs, yn wir. Barn rhai yw bod y straeon hyn yn awgrym o hanesion am gymeriadau cynhanesyddol sydd wedi esblygu dros amser ac wrth eu pasio ymlaen ar lafar.

Felly i’r rhai sydd ddim yn coelio mewn cewri, credir mai Idris ap Gwyddno oedd yr Idris Gawr hanesyddol. Bu’n frenin Meirionydd yn yr oesoedd canol cynnar a chafodd ei ladd (ddwywaith) yn 632.