Mae coedwigoedd Eryri yn chwarae rhan fawr wrth fynd i’r afael â rhai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol. Maen nhw hyd yn oed yn chwarae rhan fawr yn niwylliant a mytholeg yr ardal.
Cartref i fyd cyfrinachol o blanhigion a rhywogaethau
Er ei bod hi’n hawdd meddwl am y Parc Cenedlaethol fel man mynyddig a chreigiog, mae tua 36,400 hectar, sef 17% ohoni’n goetir.
Mae’r coedwigoedd hyn yn frith o goed llydanddail, conwydd a chymysg ac yn fwrlwm o fywyd gwyllt, creaduriaid prin, planhigion a ffwng o bob math.
Coed Brodorol
Mae nifer fawr o goed brodorol i’w gweld yng nghoedwigoedd Eryri gan gynnwys coed derw, ynn, ffawydd, sycamorwydden, bedw, ceirios, cyll, gwern, criafol, y ddraenen wen a chelyn.
Mae rhai o’n coedydd brodorol wedi dioddef o ganlyniad i glefydau coed megis Clefyd Llwyfen yr Iseldiroedd (Dutch Elms Disease). Un o’r clefydau mwyaf bygythiol ar hyn o bryd yw Clefyd Coed Ynn (Ash Dieback Disease). Yn ôl Coed Cadw, gall y clefyd hwn ladd hyd at 80% o goed Prydain
Bywyd Gwyllt Coedwigoedd Eryri
Ffwng
Mae dros 15,000 rhywogaeth o ffwng yn y Deyrnas Unedig a llawer iawn ohonynt i’w gweld yng nghoedwigoedd a choedlannau Eryri.
Clychau’r Gog
Wrth flodeuo, gall y planhigyn hwn greu carped piws llachar ar hyd lawr y goedwig. Enwau eraill Cymraeg i’r blodyn ydi ‘Bwtias y Gog’ a ‘Clychau’r Eos’.
Tylluanod
Mae gallu anhygoel y dylluan i weld a chlywed symudiadau bychain o bell yn ei wneud yn un o helwyr gorau ein cynefinoedd.
Cen
Mae cen yn tyfu ar goed a chreigiau ac yn organeb sydd yn rhannu’r un teulu â ffwng ac algi. Mae pob mathau o rywogaethau o gen i’w gweld yng nghoedwigoedd hynafol Eryri.
Mwsogl
Er bod mwsogl yn blanhigyn ddigon adnabyddus i ni, mae’r nifer o rywogaethau o fwsogl sy’n tyfu yng nghoedwigoedd galw Eryri yn syfrdanol. Maent yn chwarae rhan fawr mewn atal llifogydd.
Y Gwcw
Mae clywed cân y gwcw yn gallu bod yn brofiad arallfydol sy’n arwydd o ddechrau’r Gwanwyn. Fodd bynnag, mae’r gwcw hefyd yn enwog am ei natur gyfrwys a’i dactegau twyllodrus.
Cnocell y Coed
Mae’r sŵn cnocio a wnâi Cnocell y Coed yn arwyddocaol o’r aderyn anhygoel yma. Mae eu pîg main yn twrio o dan risgl coed i gael at bryfetach o bob math.
Y Broga Cyffredin
Mae brogaod cyffredin yn gallu bod mewn amrywiaeth eang o liwiau o wyrdd i frown, neu hyd yn oed coch neu felyn. Maent i’w gweld o amgylch pyllau yn ystod y gwanwyn ac yn cuddio o dan goedydd marw yn ystod y gaeaf.
Madfallod Dŵr
Mae sawl math o fadfallod dŵr yn byw yng nghoedwigoedd Eryri. Maent yn bridio mewn pyllau yn ystod y gwanwyn ac yn treulio'r rhan fwyaf o weddill y flwyddyn yn bwydo ar infertebratau mewn coedwigoedd.
Llygoden y Coed
Un o famaliaid mwyaf cyffredin y goedwig. Maen nhw'n bwyta hadau, ffrwythau a chnau yn yr hydref yn ogystal â dal infertebratau fel pryfed genwair, lindys a nadroedd cantroed.
Mochyn Daear
Y Mochyn Daear yw ysglyfaethwr y tir mwyaf Prydain. Mae ffwr patrymog du a gwyn y mochyn daear yn eu gwneud yn un o anifeiliaid mwyaf enwog y goedwig.
Prosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae gan Gymru ei choedwigoedd glaw arbennig a elwir yn Goedwigoedd Glaw Celtaidd. Diolch i arian sylweddol gan raglen LIFE yr UE a Llywodraeth Cymru, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn arwain prosiect gwerth £7 miliwn er mwyn sicrhau dyfodol y coedwigoedd derw, mawreddog hyn.
Mae coedwigoedd glaw Celtaidd o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd eu strwythur agored, a’r amodau mwyn a llaith ynddynt sy’n gynefin i gyfoeth o lystyfiant.
Am Brosiect Coedwigoedd Glaw Celtiadd