Hanes daearegol cyfoethog dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd

Ffurfiwyd tirwedd Eryri gan rymoedd naturiol aruthrol a chyfnod o amser y tu hwnt i bob amgyffred.

Mae daeareg Parc Cenedlaethol Eryri yn bos cymhleth o echdoriadau folcanig, symudiadau tectonig, a gweithgaredd rhewlifol.

Deall daeareg Eryri

Llosgfynyddoedd, rhewlifoedd a symudiadau tectonig sy’n gyfrifol am ffurfio tirwedd Eryri.

Mae cramen allanol y Ddaear wedi’i rhannu’n ddarnau enfawr o graig a elwir yn blatiau tectonig. Mae’r platiau hyn yn arnofio ar wely o graig dawdd, sy’n golygu eu bod yn rhydd i symud a llithro i wahanol gyfeiriadau.

Mae rhai o brif blatiau tectonig y Ddaear yn amrywio mewn maint o 43 miliwn cilomedr sgwâr i 103 miliwn cilomedr sgwâr.

Wrth i’r platiau hyn symud a llithro yn erbyn ei gilydd, mae eu ffiniau’n dadfeilio, yn malu ac yn crychu o dan bwysau aruthrol a all arwain at ddaeargrynfeydd, ffurfio moroedd a ffurfio mynyddoedd.

Wrth i blatiau tectonig y Ddaear ddadfeilio a malu, daw’r graig dawdd oddi tanynt i’r wyneb, gan greu llosgfynyddoedd ac echdoriadau folcanig.

Gall echdoriadau folcanig ffurfio mynyddoedd. Wrth i’r graig dawdd ffrwydro ar wyneb y Ddaear, mae’n oeri ac yn caledu. Mae echdoriadau mynych yn arwain at haenau o graig folcanig galed. Mae cymylau o ludw yn cael eu rhyddhau wrth i losgfynyddoedd ffrwydro gan setlo ar arwyneb y Ddaear, gan droi yn graig wrth gael ei gywasgu. Gellir dod o hyd i ffosiliau o fewn yr haenau hyn o greigiau gwaddod. Mae echdoriadau o’r fath, ar y cyd â grym platiau tectonig yn gwrthdaro gan grychu a phlygu’r haenau craig hyn, wedi arwain at ffurfio rhai o fynyddoedd enwocaf Eryri, er enghraifft Yr Wyddfa. Fodd bynnag, bu gweithgaredd rhewlifol yn bwysig hefyd wrth lunio pyramid enwog ei chopa.

Mae daearegwyr yn aml yn disgrifio rhewlifoedd fel ‘afonydd mawr o iâ’. Maent wedi eu ffurfio o eira cywasgedig, a chânt eu tynnu i lawr elltydd dros gyfnodau hir gan rymoedd disgyrchiant.

Rhewlifoedd sy’n gyfrifol am ran helaeth o edrychiad tirwedd Eryri heddiw.

Wrth symud, mae rhewlifoedd yn tynnu darnau o graig oddi ar yr wyneb oddi tanynt. Wrth i’r rhewlif gludo mwy o greigiau, mae’n crafu ac yn cerfio’r tir oddi tano, yn debyg i bapur tywod.

Mae rhewlifoedd yn erydu’r dirwedd yn raddol dros filoedd o flynyddoedd, gan ffurfio dyffrynnoedd yn y pen draw.

Wrth i rewlifoedd symud a thoddi byddai darnau o graig wedi rhewi oddi mewn iddynt yn cael eu gadael ar ôl. Dyma’r marianau a’r clogfeini ar wasgar sy’n nodweddiadol o dirwedd fynyddig Eryri.

Mae dyffrynnoedd Dyffryn Ogwen, Nant Gwynant a Nant Peris yn ddyffrynnoedd siâp U sy’n nodweddiadol o fannau lle bu gweithgaredd rhewlifol.

Cwm Idwal: Ardal o weithgaredd daearegol eithriadol

Mae’r creigiau agored yng Nghwm Idwal yn awgrymu mai gweithgaredd folcanig a oedd yn gyfrifol am ffurfio amlinell greigiog nodweddiadol un o ardaloedd mwyaf adnabyddus Eryri.

Gallwn weld tystiolaeth o’r gweithgaredd folcanig hwn drwy astudio gwaddodion cregyn môr ar wynebau’r clogwyni mawreddog. Mae hyn yn awgrymu cysylltiad rhwng echdoriadau folcanig a chefnforoedd hynafol.

Ffurfiwyd siâp bowlen anhygoel tirwedd Cwm Idwal gan weithgaredd rhewlifol filiynau o flynyddoedd yn ôl.

Roedd y rhewlif yng Nghwm Idwal yn rhan o system rewlifol fwy a greodd Ddyffryn Ogwen. Gelwir y dyffrynnoedd a ffurfiwyd o’r rhewlifoedd llai hyn yn ‘grognentydd’. Mae Cwm Idwal ymysg enghreifftiau gorau’r DU o grognentydd rhewlifol.

Ffurfio Eryri drwy'r oesoedd

Mae hanes daearegol cyfoethog Eryri yn cychwyn dros 625 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl, nid y siâp nodedig rydym yn gyfarwydd ag ef heddiw oedd ar Gymru. Roedd yn gyfres o ynysoedd folcanig wedi’u gwasgaru o amgylch pegwn y de.

Dros gyfnod o 110 miliwn o flynyddoedd, arweiniodd gweithgaredd tectonig at uno’r ynysoedd hyn i greu cyfandir bach a elwir gan ddaearegwyr yn Afalonia.

Mae’r Cyfnod Cambriaidd yn nodi dechrau’r Gorgyfnod Paleosöig. Mae’r gorgyfnod hwn wedi’i rannu’n chwe chyfnod sy’n cynnwys y cyfnodau Cambriaidd ac Ordofigaidd. Ffurfiwyd creigiau Eryri yn ystod y cyfnodau hyn.

Boddwyd Afalonia, yr ehangdir bach a fyddai’n dod yn Gymru yn y pen draw, dan ddŵr y môr, gan ffurfio basn morol o’r enw Basn Cymru.

Dyddodwyd cryn dipyn iawn o waddodion morol yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn.

Mae creigiau gwaddod yn ffurfio rhan fawr o strata Eryri. Mae’r creigiau hyn yn ffurfio wrth i waddod gronni ar wyneb y Ddaear.

Fodd bynnag, yn ystod y Cyfnod Ordofigaidd, dechreuodd gweithgaredd folcanig gyfrannu at ffurfiant creigiau Eryri.

Ffurfiwyd ynysoedd gan lafa a lludw o echdoriadau llosgfynyddoedd tanddwr.

Mae craig folcanig neu ‘igneaidd’ yn tueddu i fod yn llawer caletach na chraig waddod. Craig igneaidd sydd i’w chael yn y rhan fwyaf o ardaloedd mwy creigiog Eryri.

Er nad oes llawer o dystiolaeth o graig Silwraidd yn Eryri, mae’n debygol bod rhywfaint wedi bod yma ar ryw adeg gan ei bod i’w gweld mewn ardaloedd cyfagos o Gymru. Mae’n debygol mai cyfnodau hir o erydiad sy’n gyfrifol am y ffaith nad oes craig Silwraidd yn Eryri.

Mae’r Cyfnod Silwraidd hefyd yn nodi diwedd Basn Cymru. Mae’n debygol nad yw Eryri wedi bod dan ddŵr ers hynny.

Yn ystod y Cyfnod Defonaidd, ymunodd Afalonia â’r Alban, Gogledd Iwerddon a Laurentia, a elwir bellach yn Ogledd America.

Arweiniodd y gweithgaredd tectonig yn ystod y cyfnod hwn at wasgiant aruthrol a arweiniodd at ‘blygiant’ creigiau yng ngogledd Cymru. Mae enghreifftiau o greigiau plyg i’w gweld yng Nghwm Idwal.

Arweiniodd y gweithgaredd tectonig hefyd at ailgrisialu gronynnau mwynau, gan ffurfio llechen Gymreig enwog Eryri.

Mae’r Cyfnod Cwaternaidd yn nodi dechrau oes y rhewlifoedd.

Rhewlifoedd sy’n gyfrifol am lunio rhai o’r tirweddau eiconig rydym yn gyfarwydd â nhw heddiw.

Ffurfiwyd Dyffryn Ogwen, Nant Peris a Nant Gwynant gan weithgaredd rhewlifol.